Pencampwriaeth yn 'hwb i'r gogledd'
- Cyhoeddwyd
Bydd cynnal gemau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad dan 20 oed yn hwb anferth i Ogledd Cymru ac i rygbi, medd y Prif Weinidog Carwyn Jones.
Cafodd y gêm gyntaf yn erbyn Yr Alban ei chynnal nos Wener yng nghanolfan newydd Parc Eirias ym Mae Colwyn, ac roedd y stadiwm dan ei sang gyda 5,500 o docynnau wedi eu gwerthu.
Enillodd Cymru 28-15 yn erbyn yr Alban gan sgorio tri chais - un gan y cefnwr Ross Jones a'r ddwy arall gan yr asgellwr Luke Morgan.
Fe fydd pob un o gemau adref dan 20 oed Cymru yn cael eu chwarae ym Mae Colwyn yn y bencampwriaeth eleni.
Mae denu'r gystadleuaeth yno yn newyddion da i'r dref yn ogystal, medd Mr Jones.
Agorwyd y ganolfan gwerth £6.5 miliwn ym mis Tachwedd gan Mr Jones, ac mae Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu £4.8 miliwn tuag ato drwy'r Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewropeaidd.
'Cyffrous'
Dywedodd Mr Jones: "Mae'r datblygiad hwn yn un cyffrous i Fae Colwyn ac i Ogledd Cymru, ac mae'n newyddion da fod y cyfleuster eisoes yn profi ei werth drwy gynnal y gemau dan 20.
"Mae'r datblygiad yn rhan hanfodol o'r gwaith adnewyddu sy'n digwydd ar hyd arfordir y Gogledd.
"Nid yn unig mae'n hwb i'r economi leol ond fel canolfan Undeb Rygbi Cymru yn y Gogledd bydd hefyd yn annog diddordeb mewn rygbi yn yr ardal.
"Hoffwn ddymuno pob lwc i dîm dan 20 Cymru wrth iddyn nhw chwarae ym Mharc Eirias am y tro cyntaf."
Mae Parc Eirias yn cynnwys cyfleusterau cynadleddau a dosbarthiadau yn ogystal â champfa ac offer dadansoddi chwaraeon perfformiad uchel, lle mae Undeb Rygbi Cymru'n lleoli ei Academi Rygbi ar gyfer Gogledd Cymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd3 Hydref 2011