Cyngor Caerdydd yn penodi mwy o weithwyr cymdeithasol
- Cyhoeddwyd
Bydd Cyngor Caerdydd yn cyflogi mwy o weithwyr cymdeithasol wedi i aelodau staff honni bod "gormod o faich gwaith" yn peryglu eu gallu i warchod plant mewn perygl.
Mae'r awdurdod lleol wedi penderfynu gwario £250,000 ar gyflogi pum gweithiwr asiantaeth ac yn bwriadu cyflogi wyth gweithwyr cymdeithasol llawn amser ym mis Ebrill.
Roedd ymchwiliad wedi casglu bod staff yn delio â hyd at 40 achos yn ymwneud â phobl ifanc yn agored i niwed, ddwywaith yn fwy na'r hyn sy'n cael ei argymell.
Mae'r cyngor yn ystyried adroddiad am y mater ddydd Iau.
'Diffyg goruchwyliaeth'
Penderfynodd Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc yr awdurdod ymchwilio wedi i ddogfennau gafodd eu datgelu i bapur dyddiol y South Wales Echo ym mis Tachwedd gyfeirio at bryderon y staff.
Cynyddodd yr atgyfeirio i'r adran gwasanaethau plant 19% y llynedd, lefel yn debyg i'r un mewn cynghorau eraill.
Roedd ymchwiliad wedi casglu bod staff ddeliodd ag atgyfeiriadau o'r fath yn poeni am eu gallu i warchod plant a phobl ifanc oherwydd "gwaith gormodol, diffyg goruchwyliaeth a diffyg staff".
Nid oedd gan y tîm "oedd yn hanfodol ar gyfer adnabod plant mewn peryg" ddigon o adnoddau ac roedd dau aelod staff "yn cael eu dargyfeirio i ddelio â galwadau nad oedd yn ymwneud â gofal cymdeithasol".
Yn ôl yr adroddiad, dylid lleihau'r gwaith papur "beichus" fel bod modd iddyn nhw "ganolbwyntio ar warchod plant".
Canfu'r ymchwiliad fod polisïau a dulliau gweithredu'r cyngor weithiau'n rhwystro staff rhag cael eu recriwtio ac yn atal hyblygrwydd y staff i ymateb i ofynion gwaith.
Baich gwaith
Mae'r adroddiad yn argymell y dylid derbyn mai gwarchod plant yn agored i niwed a darpariaeth y gwasanaethau priodol a chefnogaeth sydd eu hangen arnyn nhw yw blaenoriaeth sylfaenol a phwysicaf y cyngor.
Hefyd dylid lleihau ar frys faich gwaith y gwasanaeth derbyn ac asesu i hyd at 25 achos a datblygu cynllun gweithredol i sicrhau cymhariaeth rhwng Caerdydd a dinasoedd eraill y tu allan i Gymru.
Dywedodd Steve Belcher, trefnydd rhanbarthol undeb Unsain, fod eu haelodau wedi cwyno am faich gwaith gormodol am flynyddoedd.
"Rydyn ni'n croesawu bod y cyngor yn ystyried cynyddu'r gweithlu," meddai.
Dywedodd Cyngor Caerdydd: "Mae'r cyllid ar gyfer yr wyth swydd gweithiwr cymdeithasol ar gael i gynyddu nifer y gweithwyr cymdeithasol sy'n gweithio i'r gwasanaeth derbyn ac asesu.
"Mae cynigion cyllideb ddrafft ar gyfer 2012-13 yn cynnwys cynnig i barhau'r cyllid hwn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd3 Hydref 2011