Dau o'r Gweilch yn ymuno â charfan rygbi Cymru

  • Cyhoeddwyd
Alun Wyn JonesFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Mae Alun Wyn Jones yn cymryd lle Bradley Davies sydd wedi ei wahardd

Mae dau o chwaraewyr Y Gweilch wedi cael eu galw i ymuno â charfan rygbi Cymru.

Wrth i Gymru ymarfer ar gyfer wynebu Lloegr yn Twickenham ddydd Sadwrn fe fydd y blaenwyr Alun Wyn Jones a Richard Hibbard yn ymuno â'r garfan.

Nos Wener fe wnaeth Jones, sydd wedi ennill 59 o gapiau rhyngwladol, chwarae am yr ail waith dros ei ranbarth ar ôl dychwelyd wedi anaf i'w fys troed.

Mae o'n eilydd i Bradley Davies sydd wedi cael ei wahardd wedi'r digwyddiad yn erbyn Iwerddon.

Pymtheg gwaith y mae Hibbard wedi chwarae dros Gymru.

Mae o wedi ei alw i'r garfan oherwydd amheuaeth am anafaiadau i Huw Bennett a Matthew Rees.

Bydd y ddau yn dechrau ymarfer gyda Chymru yng Nghanolfan Rhagoriaeth Undeb Rygbi Cymru ddydd Llun.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol