Buddugoliaeth i Gymru

  • Cyhoeddwyd
Leigh Halpenny yn sgorio ei ail gaisFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Leigh Halpenny yn sgorio ei ail gais

Mae'r Goron Driphlyg o fewn cyrraedd Cymru ar ôl buddugoliaeth yn erbyn yr Alban yn Stadiwm y Mileniwm.

Gyda to'r stadiwm ar gau o'r chwiban cyntaf fe ddangosodd y ddau dîm eu bod yn awyddus i ledu'r bêl.

Bu'n rhaid i Gymru ddechrau'r gêm heb eu capten oherwydd i Sam Warberton fethu prawf ffitrwydd.

Cap cyntaf felly i flaenasgellwr y Scarlets Aaron Shingler.

Ar ôl dechrau addawol, fe ddirywiodd chwarae'r tîm cartref, gyda Chymru yn ildio sawl cic gosb ac yn ei chael hi'n anodd cael meddiant.

Aeth yr Alban ar y blaen ar ôl 22 munud gyda chic gosb gan Laidlaw.

Roedd Cymru yn gyfartal ar ôl 30 munud wedi cam sefyll gan yr Alban.

Yr Alban oedd yn mwynhau y rhan fwyaf o'r meddiant gan bwyso ar linell Cymru tua diwedd yr hanner.

Ond aeth y bêl ymlaen o'r dwylo gyda'r Albanwyr o fewn dim i sgorio, pan oedd Cymru lawr i 14 yn dilyn anaf i Geroge North.

Torri tacl

Daeth cais cynta'r gêm yn fuan wedi'r egwyl.

Yr Alban yn gwneud smonach o'r ailddechrau, ac roedd Cymru yn pwyso ar y llinell.

Daeth y bêl i'r asgellwr Alex Cuthbert a lwyddodd i dorri tacl.

Ychydig funudau'n ddiweddarach roedd yr Alban lawr i 14 wedi i Nick de Luca daclo Jonathan Davies heb y bêl.

Roedd yna gic cosb i'r ddau dim, cyn i Cuthbert ddadlwytho i Halfpenny groesi'r llinell.

Wrth i Jamie Roberts fygwth bylchu roedd yna dacl anghyfreithlon ac roedd yn rhaid i Rory Lamont adael y cae am 10 munud.

Pwysodd blaenwyr Cymru gan sugno'r amddiffyn, a chafodd Halfpenny ei ail gais.

Gyda'r trosgais yn dilyn roedd Cymru ar y blaen 27-6.

Tarodd yr Alban yn ôl gyda chais Greig Laidlaw o waelod sgarmes rydd.

Er i'r Albanwyr ymdrechu'n galed cais Laidlaw a'r trosgais oedd sgôr ola'r gêm.

CYMRU:Leigh Halfpenny; Alex Cuthbert, Jonathan Davies, Jamie Roberts, George North; Rhys Priestland, Mike Phillips; Toby Faletau, Aaron Shingler, Dan Lydiate; Ian Evans, Ryan Jones (capt); Adam Jones, Huw Bennett, Gethin Jenkins.

Eilyddion: Ken Owens, Paul James, Lou Reed, Andy Powell, Lloyd Williams, James Hook, Scott Williams

YR ALBAN: Rory Lamont; Lee Jones, Nick de Luca, Sean Lamont, Max Evans; Greig Laidlaw, Chris Cusiter; David Denton, Ross Rennie, Alasdair Strokosch; Jim Hamilton, Richie Gray; Geoff Cross, Ross Ford (capt), Allan Jacobsen.

Eilyddion: Scott Lawson, Ed Kalman, Alastair Kellock, John Barclay, Mike Blair, Duncan Weir, Stuart Hogg.

Dyfarwnr: Romain Poite (Ffrainc)

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol