Robert Earnshaw yng ngharfan Cymru i wynebu Costa Rica

  • Cyhoeddwyd
Robert EarnshawFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Mae Robert Earnshaw wedi ei gynnwys yng ngharfan Cymru i wynebu Costa Rica yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar Chwefror 29.

Mae'r gêm gyfeillgar wedi ei threfnu gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru er cof am y cyn-reolwr Gary Speed.

Enillodd Speed ei gap cyntaf i'w wlad yn erbyn Costa Rica.

Dywedodd y Gymdeithas y bydd nifer o artistiaid o Gymru yn perfformio cyn y gêm.

Mae Earnshaw wedi sicrhau lle yn y garfan er gwaetha'r ffaith nad yw wedi chwarae yn gyson yn nhîm cyntaf Caerdydd.

Cymru: W Hennessey (Wolves), B Myhill (Birmingham), L Price (Crystal Palace); D Blake (Caerdydd), J Collins (Aston Villa), D Gabbidon (QPR), C Gunter (Nottingham Forest), A Matthews (Celtic), S Ricketts (Bolton), N Taylor (Abertawe), A Williams (Abertawe); J Allen (Abertawe), G Bale (Tottenham), J Collison (West Ham), A Crofts (Norwich), D Edwards (Wolves), J Ledley (Celtic), A Ramsey (Arsenal), H Robson-Kanu (Reading), D Vaughan (Sunderland); C Bellamy (Lerpwl), R Earnshaw (Caerdydd), S Morison (Norwich), S Vokes (Brighton)

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol