Chris Coleman eisiau cyfraniad Raymond Verheijen

  • Cyhoeddwyd
Chris ColemanFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Chris Coleman gyfarfod gyda Raymond Verheijen yn Llundain

Mae rheolwr tîm pêl-droed Cymru wedi dweud ei fod o eisiau Raymond Verheijen yn rhan o'i dîm hyfforddi.

Cafodd Chris Coleman ei benodi fel rheolwr y tîm cenedlaethol ym mis Ionawr i olynnu Gary Speed a fu farw ym mis Tachwedd.

Roedd Verheijen yn is-hyfforddwr i Speed.

Ac mae'r gŵr o'r Iseldiroedd wedi cyfadde' iddo gael cyfarfod cyntaf "positif" gyda Coleman.

Roedd nifer o chwaraewyr Cymru wedi dweud eu bod yn awyddus gweld Verheijen a'r hyfforddwr Osian Roberts yn parhau i fod yn gysylltiedig gyda'r garfan.

"Rydym yn edrych ar hynny [Verheijen i aros]," meddai Coleman wrth BBC Cymru.

"Dim ond un cyfarfod yr ydan ni wedi ei gael ac felly dwi wedi siarad cymaint efo Raymond a dwi wedi ei wneud efo Osian ac unrhyw un arall - dim byd arbennig.

"Mae pobl wedi darllen rhwng llinellau.

"Roedd y cyfarfod yn un cadarnhaol ac fe fyddwn ni'n siarad eto........ roedd yn addawol."

Ychwanegodd iddo dreulio dwy neu dair awr gyda Verheijen yn Llundain ddydd Mercher.

Roedd rhai chwaraewyr am weld Verheijen a Roberts yn cymryd rheolaeth o'r tîm cyn i Coleman gael ei benodi.

Ar wefan Twitter dywedodd Verheijen iddo gael "cyfarfod diddorol gyda rheolwr newydd Cymru Chris Coleman".

"Argraff positif cyntaf."

Cwpan y Byd 2014

Oherwydd eira bu'n rhaid gohirio'r cyfarfod oedd i fod i gael ei gynnal ddydd Gwener ddiwethaf yn Amsterdam.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Osian Roberts a Raymond Verheijen fydd yn gyfrfiol am y tîm ar gyfer gêm goffa Gary Speed ar Chwefror 29

Mae Verheijen wedi gweithio gyda'r Iseldiroedd, Rwsia, De Corea ac Awstralia mewn Cwpanau Byd.

Roedd Verheijen a Roberts yn rhan o dîm hyfforddi Speed.

Mae Coleman wedi penodi ei gyn-aelod o dîm Cymru a Fulham, Kit Symons, fel rhan o'i dîm hyfforddi wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer gemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2014 a fydd yn cychwyn ym mis Medi.

Fe fydd Roberts yn parhau yn rhan o'r tîm hyfforddi ond mae 'na ansicrwydd am ddyfodol Verheijen.

Roedd Coleman wedi dweud cyn y cyfarfod ei fod eisiau gweld be oedd gan Verheijen i'w gynnig.

"Fydd Raymond ddim yn fy adnabod i. Efallai ei fod yn gwybod amdana i ond ddim yn fy adnabod. Na finnau yntau," meddai.

Verheijen a Roberts fydd yng ngofal y tîm cenedlaethol wrth iddyn nhw wynebu Costa Rica yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar Chwefror 29.

Gêm gyfeillgar yw hon sydd yn gêm goffa i Gary Speed.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol