Problem ddrud ceffylau gwyllt
- Cyhoeddwyd
Mae ceffylau sy'n cael eu gadael yn rhydd ar draws De Cymru yn peryglu bywydau, yn creu cur pen i'r heddlu ac yn costio cannoedd o filoedd o bunnau i awdurdodau lleol.
Mae'r broblem ar ei gwaethaf ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Bro Morgannwg lle mae'r heddlu'n dweud bod nifer y galwadau sy'n ymwneud â cheffylau wedi cynyddu o 25 y mis ar gyfartaledd, i 497 y mis diwethaf - cynnydd o bron 2000%.
Dangosodd ymchwiliad gan BBC Cymru ei bod yn broblem sylweddol bellach o Sir Benfro yn y gorllewin i Gasnewydd yn y dwyrain, gyda cheffylau yn rhedeg yn wyllt ar stadau tai, ffyrdd prysur a meysydd chwarae plant.
Allforio
Un enw oedd yn codi'n gyson yn ystod yr ymchwiliad oedd Tom Price. Mae e'n rhedeg busnes mawr ym Mro Morgannwg o'r enw "Welsh Gypsy Horses" sy'n allforio anifeiliaid ar draws y byd.
Wrth gael ei holi gan raglen Week In Week Out BBC Cymru, mynnodd Mr Price ei fod yn berchennog ceffylau cyfrifol sydd wedi cael ei gyhuddo ar gam. Dywedodd hefyd nad ef yw unig berchennog Cobiau Sipsiwn Cymreig yn Ne Cymru.
Mae Al Francis yn fridiwr ceffylau sy'n uchel ei barch ac yn gweithio yn agos gyda'r gymuned sipsiwn.
Dywedodd wrth BBC Cymru bod y rhai sy'n masnachu mewn ceffylau wedi cael eu taro'n ddrwg gan y dirwasgiad, ond ychwanegodd:
"Tan i bobl rhoi'r gorau i fridio er mwyn bridio, fe fydd y broblem yma yn gwaethygu."
Problem ysgol
Mae elusennau anifeiliaid yn cael trafferthion ymdopi gyda maint y broblem, gyda'r RSPCA yn derbyn bron i 2,000 o gwynion am les anifeiliaid y llynedd.
Yn ddiweddar, daeth hafan Redwings yn Norfolk i achub 23 o geffylau oedd wedi cael eu gadael ger Maes Awyr Caerdydd, a dywedodd un o filfeddygon y ganolfan ei fod wedi gorfod difa tri ohonynt gan eu bod mewn cyflwr truenus.
Roedd rhaglen Week In Week Out yn ffilmio mewn ysgol ym Mhen-y-bont ar Ogwr, lle'r oedd dwsin o geffylau gwyllt yn rhedeg ar dir yr ysgol.
Dywedodd pennaeth Ysgol Bryntirion, Alwyn Thomas, wrth ei Aelod Seneddol lleol bod y math yma o beth yn digwydd yn gyson, gan ddweud: "Fe fydd plentyn yn cael ei gicio rhyw ddiwrnod - dyna'r gwir bryder i mi."
'Anghyfrifol'
Pan mae'r ceffylau'n ymddangos, mae aelod o gymuned sipsiwn lleol yn galw heibio i'w casglu. Ar un achlysur pan oedd BBC Cymru'n ffilmio, fe ddaeth mab Tom Price i gynorthwyo, ond mynnodd nad ei geffylau ef oedden nhw.
Dywedodd AS Pen-y-bont, Madeleine Moon, wrth y rhaglen: "Mae gennym berchnogion ceffylau anghyfrifol sy'n gyrru ar hyd yr M4 yn dewis lle y maen nhw am adael eu hanifeiliaid."
Mae'n galw am ffordd fwy effeithiol ac effeithlon o ddod o hyd i berchnogion ceffylau a'u gwneud yn fwy atebol.
Ar hyn o bryd fe ddylid cael "pasport" i geffylau a gosod microsglodyn arnynt, ond mae rhai perchnogion yn gwrthod cydymffurfio, a hynny'n gwbl agored.
Diflannu
Yr Uwch-arolygydd Paul James o Heddlu'r De sy'n arwain tasglu sy'n gweithio gyda'r awdurdodau lleol, ac mae'n dweud y bydd cynllun newydd yn gyrru neges glir i berchnogion ceffylau.
"Os ydi'r ceffylau ar y briffordd fe fyddwn ni'n mynd â nhw - os fyddwn ni'n gwneud hynny a'ch bod eisiau eu cael nhw nôl fe fydd yn costio £200 i chi," meddai.
Ond mae'r cynllun yma wedi cael trafferthion hefyd. Roedd rhai ceffylau oedd wedi cael eu casglu a'u cadw mewn safle diogel wedi diflannu yng nghanol nos.
Mae arweinydd y Ceidwadwyr yn y cynulliad, Andrew RT Davies, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu, ond mae'n dweud bod angen gwell cydlynu a mwy o bwerau er mwyn gwneud hynny.
Bydd rhaglen Week In Week Out: My Big Expensive Gypsy Horse Problem yn cael ei darlledu ar BBC1 Cymru nos Fawrth, Chwefror 21 am 10:35pm.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Hydref 2011