'Yn fwy gobeithiol o ddal llofrudd Kirsty Jones'
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Dyfed Powys wedi dweud eu bod yn fwy gobeithiol nac erioed y bydd llofrudd Kirsty Jones yn cael ei ddal.
Cafodd Kirsty, oedd yn 23 oed o Dredomen ger Aberhonddu, ei threisio a'i thagu yn y gwesty yn y wlad yn 2000.
Cytunodd yr awdurdodau yn Bangkok yng Ngwlad Thai y bydden nhw'n canolbwyntio ar ddarganfod pwy oedd yn gyfrifol am adael proffil DNA mewn gwesty yn Chiang Mai.
Aeth dau o swyddogion Heddlu Dyfed Powys i'r wlad i helpu'r ymchwiliad i'w marwolaeth.
Dywedodd y Ditectif Uwcharolygydd Steve Wilkins: "Roedd y drafodaeth gyda'r Cyrnol Heddlu Songsak Raksaksakul, sy'n arwain yr ymchwiliad, yn galonogol.
"Mae'n amlwg bod yr ymchwiliad yn bwysig iawn i'r heddlu.
Neb
"Ein barn ni erioed, ar sail y dystiolaeth fforensig, yw darganfod y sawl â'r DNA y daethpwyd o hyd iddo yn ystafell y gwesty."
Er bod nifer o bobl wedi cael eu harestio, does neb wedi ei gyhuddo.
Cafwyd hyd i'w chorff mewn ystafell yng Ngwesty Aree yn Chiang Mai yng ngogledd y wlad, ryw 435 milltir o'r brifddinas Bangkok.
Dri mis yn gynharach roedd wedi cychwyn ar daith dwy flynedd o amgylch y byd.
Mae ei mam, Sue Jones, wedi addo na fydd yn rhoi'r gorau i'w hymgyrch nes bod llofrudd ei merch yn cael ei ddal.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2012