Cwtogi ASau Cymru yn 'gywilydd'
- Cyhoeddwyd
Mae cynlluniau i leihau nifer yr Aelodau Seneddol yng Nghymru o 25% yn "gywilydd" ar y llywodraeth yn ôl un AS Llafur.
Roedd AS Torfaen, Paul Murphy, yn siarad yn y Ddadl Gŵyl Dewi yn Nhŷ'r Cyffredin.
Dywedodd y byddai canlyniad yr arolwg ffiniau, sy'n ceisio cael gwared â 50 o seddau ar draws y DU gan gynnwys 10 yng Nghymru, yn lleihau dylanwad Cymru o fewn y DU.
Dywedodd: "Fy mhryder dros y blynyddoedd diweddar yw bod ASau Cymru, a busnesau Cymru, yn cael eu hymyleiddio, sydd yn bryderus.
"Mae'r ffaith bod cwestiwn West Lothian yn cael ei drafod gan y comisiwn yn awgrymu bod nifer fawr o fewn y Tŷ hwn yn credu bod gan ASau o Gymru statws gwahanol o fewn y Senedd i aelodau gweddill y DU.
"Yn y pen draw, dylai'r Undeb gynrychioli'r pedair rhan o'r DU o fewn Senedd a Llywodraeth y DU.
"Mae'n gywilydd ar y llywodraeth, ac mae'n ddrwg gen i orfod dweud hynny."
Iechyd
Ychwanegodd Mr Murphy y dylai ASau Cymru barhau i bleidleisio ar ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â'r Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr yn unig gan fod cleifion yn croesi'r ffin am driniaeth.
Ond gwrthod y ddadl honno wnaeth AS Ceidwadol Mynwy, David Davies, a ddywedodd: "Does gan ASau o Loegr sydd ag etholwyr yn cael triniaeth yng Nghymru ddim dylanwad o gwbl ar hynny.
"Pen draw rhesymegol y ddadl yw y dylai Aelodau Cynulliad gynrychioli ardaloedd fel Sir Henffordd, Sir Gaerloyw a Chaer."
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru yn Nhŷ'r Cyffredin, Elfyn Llwyd, fod y gostyngiad yn nifer y seddau yng Nghymru yn "amhriodol ac yn llawer gormod ar hyn o bryd."
Dywedodd: "Credaf fod y toriadau yma yn sylweddol iawn."
Pwerau
Wrth sôn am ganfyddiadau Comisiwn Silk ar Ddatganoli, ychwanegodd: "Rydym wedi dadlau y dylai rhai pwerau trethu gael eu trosglwyddo i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys peth treth incwm, treth ar werth, treth gorfforaethol a threthi adnoddau.
"Rydym hefyd wedi dadlau y dylid cael yr hawl i greu trethi newydd yng Nghymru.
"Rwy'n credu ei bod yn iawn i ni ail-ystyried cyfundrefnau datganoli.
"Yn refferendwm mis Mawrth y llynedd, fe roddodd pobl Cymru eu barn...ymhob arolwg barn maen nhw am gael mwy o bwerau dros blismona, cyfiawnder, ynni a'r cyfryngau, o leiaf."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2011