Cynghorau yn arwyddo cytundeb gwastraff bwyd

  • Cyhoeddwyd
Bwyd yn cael ei wastraffuFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y gwastraff bwyd yn cael ei drin gyda phroses o'r enw Treulio Anaerobig (AD)

Mae dau gyngor sir wedi arwyddo cytundeb i droi gwastraff bwyd pobl i drydan adnewyddadwy a gwrtaith.

Bwriad cynghorau Ceredigion a Phowys yw i leihau cyfanswm y gwastraff sy'n cael ei gludo i safle tirlenwi yn Llanidloes.

Mae'r ddau gyngor yn bwriadu dyfarnu contract i Agrivert Ltd am y gwaith tymor hir o drin gwastraff bwyd y rhanbarth.

Maen nhw wedi bod yn gweithio gyda'i gilydd dan yr enw Gwastraff Canolbarth Cymru i sicrhau triniaeth gynaliadwy tymor hir o'r gwastraff bwyd a bellach mae'r ymarfer caffael wedi'i gwblhau.

Mwy amgylcheddol-gyfeillgar

Yn sgil hyn, bydd y gwastraff bwyd y mae'r ddau awdurdod yn ei gasglu yn cael ei drin gyda phroses o'r enw Treulio Anaerobig (AD), a fydd yn cadw'r gwastraff rhag mynd i safleoedd tirlenwi, yn trosi'r gwastraff bwyd yn wrtaith gwerthfawr ac yn cynhyrchu trydan adnewyddadwy.

Bydd gwastraff bwyd Ceredigion a Phowys sy'n cael ei drin gyda'r cyfleuster yma, yn cynhyrchu digon o drydan gwyrdd ar gyfer 850 o dai, a bydd y gwrtaith yn cael ei daenu ar dir fferm ger y gwaith.

Ystyrir bod AD yn fwy amgylcheddol-gyfeillgar na chompostio, sef y dull a ddefnyddir i drin gwastraff bwyd yng Nghanolbarth Cymru ar hyn o bryd, oherwydd ei botensial i gynhyrchu trydan.

Bydd y cytundeb gydag Agrivert hefyd yn cynnig arbedion cost o'i gymharu â'r trefniadau presennol, ac yn osgoi costau safleoedd tirlenwi.

'Cam positif'

Wrth benderfynu pa gwmni i ddyfarnu'r cytundeb iddo, bu'r Bartneriaeth yn ystyried amrywiaeth eang o faterion, gan gynnwys yr effaith ar yr amgylchedd a'r gost.

Cymerodd y broses gaffael bron dwy flynedd i'w chwblhau, a Llywodraeth Cymru sydd wedi ei hariannu'n llawn fel rhan o'i Rhaglen Caffael Seilwaith Gwastraff.

Mae cynghorau ar hyd a lled Cymru'n cydweithio fel rhan o'r Rhaglen, ond gwastraff bwyd Canol Cymru fydd y cyntaf i gael ei drin dan y fenter yma.

Mae'r Bartneriaeth wrthi'n paratoi achos busnes i'w gyflwyno i Lywodraeth Cymru er mwyn ceisio sicrhau rhagor o gyllid i'r prosiect dros y 15 mlynedd nesaf.

Bydd cludwyr lleol, Mansel Davies a'i Feibion, yn gyfrifol am gludo'r gwastraff o ddepos y Cyngor i'r gwaith AD i'w drin.

Dywedodd Huw Morgan, Cyfarwyddwr Adran Priffyrdd, Eiddo a Gwaith Ceredigion, a'r swyddog sy'n gyfrifol am y prosiect, "Mae'r cytundeb yma yn gam positif wrth wella'r amgylchedd i Geredigion a Phowys, ac mae'n dangos beth sy'n bosibl trwy weithio gydag awdurdodau cyfagos."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol