Trallod Dementia yn chwalu breuddwyd ymddeol

  • Cyhoeddwyd
Michael a Jenny CohenFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r salwch wedi gadael ei ôl ar y cwpwl, sy'n nodi 35 mlynedd o briodas y mis Medi hwn

Mae gofalwr sydd wedi treulio'r chwe blynedd diwethaf yn gofalu am ei wraig sydd â chlefyd Alzheimer wedi siarad am sut mae'r salwch wedi dinistrio eu bywydau.

Ond mae cefnogaeth gan brosiect a ariannwyd gan y Gronfa Loteri Fawr yn darparu saib o'i gyfrifoldebau gofalu bob dydd.

Y llynedd dyfarnwyd bron £960,000 i'r Gymdeithas Alzheimer gan raglen Llawn BYWYD £20 miliwny Gronfa Loteri Fawr.

Nod y cynllun yw grymuso pobl hŷn yng Nghymru trwy leihau unigedd cymdeithasol a datblygu gwasanaethau cefnogi.

Mae'r prosiect yn cynnig cwmnïaeth, cymorth emosiynol ac ymarferol i bobl â dementia a gofalwyr yng Nghymru trwy hyfforddi tîm pwrpasol o wirfoddolwyr i fod yn gyfaill i bobl â dementia ar sail un ac un a chefnogi gofalwyr trwy wasanaeth bod yn gyfaill newydd ar y ffôn.

Ymhlith y bobl i elwa o'r prosiect y mae Michael Cohen, sy'n 66 oed ac yn hanu o Gydweli a'i wraig Jenny, sy'n dioddef o glefyd Alzheimer.

Ar ôl gweithio'r rhan fwyaf o'u bywydau gyda'r Gwasanaeth Prawf ym Manceinion ac yn magu dau o blant, roedd y gŵr a'r wraig Michael a Jenny Cohen yn edrych ymlaen at ymddeol i'w cartref delfrydol yng Nghydweli ar arfordir De Cymru a mwynhau gweddill eu bywydau gyda'i gilydd.

"Roedd y ddau ohonom wedi gweithio'n galed iawn mewn swyddi anodd a heriol am ran fwyaf ein bywydau cyn ymddeol i Gydweli pan oeddwn yn 60 oed gyda llawer o gynlluniau a syniadau ynglŷn â sut yr oeddem yn mynd i dreulio ein hymddeoliad a mwynhau gweddill ein bywydau gyda'n gilydd," dywedodd Michael.

Chwalu Breuddwydion

Yn fuan ar ôl cyrraedd Cydweli, daeth hi'n amlwg bod Jenny yn sâl a thair blynedd yn ôl derbyniodd ddiagnosis Alzheimer, clefyd heb wellhad sy'n difrodi'r ymennydd ac sy'n effeithio ar tua 465,000 o bobl yn y DU.

Bellach mae Michael yn treulio'i amser yn gofalu am Jenny a chymaint y mae effaith ei salwch ar eu bywydau, weithiau maen nhw'n teimlo nad yw bywyd yn werth ei fyw o gwbl.

"Mae'r holl gynlluniau hynny wedi'u rhoi o'r neilltu oherwydd y salwch dychrynllyd hwn ac nid ydym wedi gallu mwynhau ein hymddeoliad o gwbl," dywedodd Michael.

"Mae'n drist ac yn drasig iawn, yn enwedig ar ôl inni weithio mor galed.

"Bellach mae ganddi'r salwch erchyll hwn sydd wedi draenio ei hyder a'i mwynhad o'i bywyd.

"Mae wedi cael effaith debyg arnaf i ond o leiaf mae gennyf fywyd y tu allan i'r salwch."

Gyda symptomau yn cynnwys colli cof, pryder, dryswch, hwyliau ansad ac ymddygiad obsesiynol, mae'r salwch wedi cael effaith erchyll ar fywyd y cwpwl:

"Rwyf wedi bod yn ofalwr cyhyd ag mae fy ngwraig wedi bod yn sâl," dywed Michael.

"Does ganddi ddim syniad pa amser yw hi na pha ddiwrnod yw hi.

"Mae'n ddryslyd ofnadwy ac os wyf allan gyda'r nos ac rwy'n cyrraedd gartref am 11pm, mae'n meddwl bod hi'n amser codi ac yn amser am frecwast.

"Nid oes ganddi ddealltwriaeth o ddydd na nos.

"Yn syml, mae rhannau o'r ymennydd yn rhoi'r gorau i weithredu wrth i'r afiechyd barhau.

"Yn y pen draw, bydd yr ymennydd yn rhoi'r gorau iddi'n llwyr."

"Mae'n anodd iawn gan nad yw'r person yr oeddwn yn ei adnabod, ac yn briod â hi ac yn byw â hi am fwy na deg ar hugain o flynyddoedd yno bellach.

"Person gwahanol iawn ydyw erbyn hyn ac mae'n amhosibl cael sgwrs resymegol gan na all fy ngwraig gynnal un.

"Ni all hi gofio unrhyw beth, mae'n profi'r hwyliau ansad mwyaf ofnadwy, ac mae'n eithaf ymosodol tuag ataf yn aml.

"Mae'n ysbryd neu'n gysgod o'r person yr oeddwn i'n ei adnabod."

Gadael ei Ôl

Mae'r salwch wedi gadael ei ôl ar y cwpwl, sy'n nodi 35 mlynedd o briodas y mis Medi hwn, a dywed Michael mai ei unig seibiant yw pan fydd yn gweithio tri diwrnod yr wythnos fel Cofrestrydd gyda'r Awdurdod Lleol.

"Mae'n gwrthod ystyried gofal seibiant ac unrhyw ffurf arall ar ofal ar wahân i'r hyn rwy'n ei ddarparu.

"Felly, yr unig seibiant rwy'n ei gael yw wrth fynd i'r gwaith oherwydd rwy'n gwybod y bydd hi'n ddiogel yn ystod y dydd."

Mae Michael yn ddiolchgar am y gefnogaeth maen ei derbyn gan y Gymdeithas Alzheimer.

"Rydym wedi cael help amrywiol ganddynt ac maen nhw wedi cynnig cyrsiau a sesiynau hyfforddi niferus," dywedodd.

"Yr hyn sydd wedi bod yn hynod ddefnyddiol yw'r gwirfoddolwr y maen nhw wedi'i ddarparu i ni.

"Mae'r gwirfoddolwr yn gyn-nyrs sy'n dod i weld Jenny unwaith y pythefnos am gwpwl o oriau yn y prynhawn ac yn siarad â hi ac yn mynd â hi allan i gerdded yn y prynhawn.

"Mae'n rhywbeth y mae Jenny yn edrych ymlaen ato ac mae'n bwysig iawn iddi.

"Dyna'r unig gyswllt dynol arall sy'n ganddi ar wahân i fi. Byddem yn falch iawn pe bai modd i'r gwirfoddolwr ddod yn amlach."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol