Mwy yn cael diagnosis o ddementia

  • Cyhoeddwyd
DementiaFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Cymdeithas Alzheimer's bod tua 27,000 o bobl Cymru yn byw gyda dementia heb gael diagnosis ffurfiol

Bu cynnydd o 1% yn nifer y bobl a gafodd ddiagnosis o ddementia yng Nghymru'r llynedd.

Fe gafodd 16,300 o bobl wybod eu bod yn diodde' o'r cyflwr, o'i gymharu â 15,400 y flwyddyn cynt.

Ond mae'r Gymdeithas Alzheimer's wedi mynegi eu pryder oherwydd mai yng Nghymru y mae'r raddfa isaf o ddiagnosis yn y DU.

Maen nhw'n amcangyfrif mai dim ond 37% o bobl sy'n byw gyda dementia sy'n derbyn diagnosis ffurfiol o'r cyflwr.

Cred yr elusen bod mwy na 27,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda'r cyflwr ond ddim yn derbyn budd-daliadau perthnasol, triniaeth cyffuriau na'r gefnogaeth sy'n deillio o gael diagnosis cywir.

Mae astudiaeth ganddynt hefyd yn dangos y gall diagnosis cynnar arbed miloedd o bunnau i'r trethdalwr, gan y gall olygu oedi cyn bod angen gofal parhaol ar bobl y tu allan i'w cartrefi eu hunain.

'Anghofus'

Dywedodd Sue Phelps, Cyfarwyddwr Dros Dro Cymdeithas Alzheimer's Cymru:

"Mae'n syfrdanol bod ymhell dros hanner y bobl sy'n byw gyda dementia yng Nghymru ddim wedi derbyn diagnosis. Rydym wedi gweld cynnydd dros y flwyddyn ddiwethaf, ond mae yna ffordd bell i fynd.

"Mae pawb ychydig yn anghofus o bryd i'w gilydd, ond pan mae colli cof yn dechrau amharu ar fywyd pob dydd mae'n bwysig cael profion cyn gynted â phosib.

"Gorau po gynted y mae rhywun yn cael diagnosis fel y gallant ddechrau cael cefnogaeth a pharatoi ar gyfer eu dyfodol."

Mae'r Gymdeithas Alzheimer's yn argymell y dylai pobl sy'n pryderu am eu cof fynd i siarad gyda'u meddyg teulu, yn enwedig os ydynt yn profi rhai o'r symptomau canlynol :-

  • Methu cofio digwyddiadau diweddar er eu bod yn gallu cofio pethau o'r gorffennol;

  • Cael trafferth dilyn sgyrsiau neu raglenni teledu;

  • Anghofio enwau ffrindiau neu bethau cyffredin bob dydd;

  • Cael trafferth gwneud penderfyniadau;

  • Ailadrodd sgyrsiau neu gael trafferthion rhesymu a meddwl;

  • Gweld fod eraill yn gwneud sylwadau am eu diffyg cof.

Gall pobl sy'n bryderus hefyd ffonio'r elusen ar 0845 300 0336.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol