Isafswm ar bris pob uned o alcohol

  • Cyhoeddwyd
Diodydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn ers amser am ddatganoli grymoedd i Gymru er mwyn medru cymryd camau i daclo materion megis prisiau alcohol a thrwyddedu

Mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu cynlluniau llywodraeth San Steffan i osod isafswm ar bris pob uned o alcohol.

Bwriad yr Ysgrifennydd Cartref, Theresa May, ydi deddfu i godi lleiafswm o 40 ceiniog yr uned er mwyn mynd i'r afael â phroblem goryfed.

Mae ymgyrchwyr wedi croesawu'r cyhoeddiad, ond mae gwerthwyr alcohol wedi ymateb yn chwyrn.

Mae'r Strategaeth Alcohol am "droi'r llanw" yn erbyn yfed anghyfrifol, ac mae cynigion tebyg yn cael eu hystyried gan Senedd yr Alban.

Datganoli

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi gofyn ers amser am ddatganoli grymoedd i Gymru er mwyn medru cymryd camau i daclo materion megis prisiau alcohol a thrwyddedu: "Rydym wedi dweud yn gyson bod angen gosod isafswm pris ar gyfer alcohol.

"Anfonodd y Gweinidog dros Lywodraeth Leol a Chymunedau lythyr at yr Ysgrifennydd Cartref mor ddiweddar â'r mis diwethaf yn gofyn am ddatganoli'r pwerau hyn ond unwaith eto fe wrthodwyd y cais".

Ychwanegodd bod Llywodraeth Cymru wedi clustnodi £40m i fynd i'r afael â chamddefnydd sylweddau.

Fis diwethaf, dywedodd adroddiad newydd gan Alcohol Concern bod angen dileu'r stigma ynghylch cyfaddef problem alcohol a cheisio triniaeth amdani.

Mae'r adroddiad, Problem Pawb, gan yr elusen genedlaethol ar gamddefnyddio alcohol, yn awgrymu bod angen bod yn fwy gonest am rôl alcohol yn ein cymdeithas.

Mae hefyd yn herio'r syniad y gellir priodoli problemau alcohol i garfan fach o 'yfwyr problemus'.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol