Camddefnydd alcohol 'ar gynnydd'
- Cyhoeddwyd
Dywed canolfannau sy'n ceisio mynd i'r afael â'r camddefnydd o alcohol a chyffuriau eu bod yn disgwyl cynnydd yn y nifer o bobl fydd angen help dros gyfnod y Nadolig.
Bydd staff tri o'r gwasanaethau mwyaf yng Nghymru - Cais yng Ngogledd Cymru, Inroads yng Nghaerdydd a Prosiect Cyffuriau Abertawe - yn darparu staff er mwyn cynnig cymorth i bobl.
Dywed Clive Wolfendale, prif weithredwr Cais, fod y Nadolig yn gallu bod yn amser anodd i bobl gyda phroblemau cyffuriau neu alcohol.
Cysur teulu
"Mae hwn yn gyfnod lle mae yna ddisgwyl i bobl fwynhau, ac yn aml mae hynny'n golygu fod yna lot o yfed," meddai.
"Mae ceisio osgoi hynny, yn enwedig o ystyried y niwed mae alcohol yn ei wneud, yn anodd pan mae alcohol i'w weld ym mhobman.
"Mae'r Nadolig yn adeg i'r teulu.
"Ond dyw cysur y teulu ddim yn rhywbeth sydd ar gael i nifer o'n cleientiaid. Yna aml maen nhw wedi gwahanu o'u teuluoedd neu o bosib fod y teulu wedi ei chwalu oherwydd y camddefnydd o alcohol neu gyffuriau," meddai.
"Mae pobl yn gallu teimlo'n isel yr adeg hon o'r flwyddyn ac yn aml mae pobl sy'n ceisio rhoi'r gorau i alcohol yn troi'n ôl at y botel."
"Dyna pam ei bod yn bwysig ein bod yn sicrhau fod pobl ar gael i roi cyngor a chymorth dros gyfnod y Nadolig.""
"Yn sicr mae'r broblem gyda chamddefnydd o alcohol yn fwy niferus na'r broblem o gamddefnydd cyffuriau.
Dywedodd Ifor Glyn, cyfarwyddwr Prosiect cyffuriau Abertawe, mai heroin yw prif broblem cyffuriau'r ddinas.
Pobl ifanc
Ond dywedodd fod yna gynnydd sylweddol wedi bod yn y camddefnydd o alcohol.
Dywedodd fod yna gynnydd o 30% yn y nifer o bobl sy'n camddefnyddio alcohol, cyffuriau neu hylifau. Roedd bron 70% o'r achosion yn gysylltiedig gydag alcohol.
Dywedodd Mr Glyn eu bod yn cynnig addysg a rhaglen byw yn iach i geisio helpu pobl.
Dywedodd fod nifer yr achosion yn ymwneud a phobl ifanc dan 18 bron a dyblu eleni i 101.
Mae Ross Woodfield, swyddog gyda Inroads, hefyd o'r farn fod y Nadolig yn gyfnod anodd.
Hyrwyddo alcohol
"Mae Nadolig yn cael effaith, dyma'r adeg pan mae yna broblemau yn codi o fewn teuluoedd.
"A fydd y dirwasgiad yn ychwanegu at y broblem? Mae'n debyg y bydd e."
Mae Mr Wolfendale am i'r llywodraeth ei gwneud yn anoddach i gael gafael ar alcohol. Mae o hefyd am weld mesurau fyddai'n cyfyngu ar allu cwmnïau i hyrwyddo'r cynnyrch.
"Os rydych yn edrych am ddihangfa drwy gamddefnydd, yna'r ffordd ratach i wneud hynny yw alcohol yn hytrach na heroin, cannabis neu gocên.
"Yn gymdeithasol mae'n dderbyniol ac mae'n cael ei hyrwyddo.
"Mae angen i gymdeithas fynd i'r afael â'r broblem."
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyflwyno gwaharddiad ar werthu alcohol am lai o arian na gymerwyd i'w gynhyrchu. Bydd y gwaharddiad yn dod i rym yn Ebrill 2012.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd14 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2011