Merch o Geredigion i gludo'r Fflam Olympaidd

  • Cyhoeddwyd
Carwen RichardsFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Carwen Richards ei henwebu gan swyddog 5x60 ei hysgol i gydnabod ei swyddogaeth fel Llysgennad Ifanc

Mae mabolgampwraig 17 mlwydd oed o Lanbedr Pont Steffan yn cael cymryd rhan yn y Gemau Olympaidd yng Ngheredigion wedi iddi gael blas ar y Gemau yn Llundain y llynedd.

Cafodd Carwen Richards o Bumsaint ei dewis i gario'r Fflam Olympaidd yn Aberystwyth ddydd Llun Mai 28, pan fydd y fflam yn teithio ddod drwy Geredigion.

Cafodd ei henwebu gan swyddog 5x60 ei hysgol, i gydnabod ei swyddogaeth fel Llysgennad Ifanc.

Gwaith y swyddogion 5x60 yw cynyddu nifer y disgyblion oedran uwchradd sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgareddau corfforol am 60 munud o leiaf bum gwaith yr wythnos.

Roedd Carwen yn un o ddim ond chwech o bobl Ifanc yn y DU a gafodd ei dewis i fynd ar brofiad gwaith gyda Llundain 2012 y llynedd.

Rhagoriaeth bersonol

"Mae hyn yn rhoi coron ar y cyfan," meddai.

"Mae'r cynllun Llysgenhadon Ifanc wedi rhoi llawer o gyfleoedd a phrofiadau gwych i mi, rhai na fyddaf yn eu hanghofio.

"Fe fydd cario'r Fflam Olympaidd yn brofiad unigryw, a byddaf yn ei drysori am byth."

Yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Llanbedr Pont Steffan, Carwen yw'r unig Lysgennad Ifanc Platinwm yng Ngheredigion - sy'n golygu ei bod yn weithgar ar hyd a lled y wlad yn ysbrydoli pobl ifanc i gymryd rhan mewn chwaraeon cyn Gemau Llundain 2012.

Mae hi hefyd yn aelod o grŵp llywio Llysgenhadon Ifanc Cymru.

Cydlynydd lleol y mudiad Llysgenhadon Ifanc yw Bryn Evans, Rheolwr Pobl Ifanc Actif Cyngor Sir Ceredigion.

Yn sgil Addewid Singapore, mae'r bobl ifanc yn annog mwy o bobl i gymryd rhan mewn chwaraeon ac addysg gorfforol yn yr ysgol ac yn hybu ffyrdd iach a bywiog o fyw.

Maen nhw hefyd yn gyfrifol am hyrwyddo Llundain 2012 a lledaenu'r gair am werthoedd Olympaidd a Pharalympaidd - parch, cyfeillgarwch, rhagoriaeth bersonol, dewrder, penderfyniad, ysbrydoliaeth a chydraddoldeb.

'Llysgennad Ifanc'

Gorchwyl diweddaraf Carwen oedd rhoi cyflwyniad i aelodau Cabinet Cyngor Sir Ceredigion ynglŷn â chwaraeon a'r ffyrdd y gallai pobl ifanc Ceredigion elwa ar y Gemau Olympaidd.

Yn awr bydd hithau'n cael budd o'r Gemau wedi iddi gael y fraint o gario'r fflam.

Yn ystod wythnos arferl fe fydd Carwen yn chwarae hoci i Glwb Hoci Llanybydder, ei hysgol a'i sir, yn ogystal â chwarae yn nhîm pêl-rwyd yr ysgol.

Mae hi hefyd yn chwarae i dîm rygbi merched Cwins Caerfyrddin ac yn aelod o garfan ranbarthol dan 18 y Scarlets.

"Rwy'n gobeithio y gallaf drosglwyddo fy mwynhad a'm brwdfrydedd dros chwaraeon wrth weithio fel Llysgennad Ifanc, ac annog mwy o bobl i gymryd rhan," meddai.

"Rwyf eisoes wedi cael cyfle i gwrdd â Llysgenhadon Ifanc eraill o Gymru, yn ogystal â'r beiciwr Geraint Thomas, y nofiwr David Davies ac Ellie Simmonds y nofiwr Paralympaidd mewn amryw gynadleddau a digwyddiadau."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol