Ugain cyngor sir heb wahardd ysmygu mewn meysydd chwarae

  • Cyhoeddwyd
YsmyguFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Daw'r canlyniadau union bum mlynedd ers y gwaharddiad ar ysmygu mewn llefydd cyhoeddus

Dim ond dau o 22 awdurdod lleol Cymru sydd wedi gwahardd ysmygu mewn meysydd chwarae.

Mae arolwg gan yr elusen ASH, elusen iechyd y cyhoedd sy'n delio â defnydd tybaco yng Nghymru, wedi canfod mai dim ond cynghorau Powys a Chaerffili sydd wedi gwahardd ysmygu mewn meysydd chwarae.

Daw canlyniad ASH bum mlynedd i'r diwrnod ers i'r gwaharddiad ar ysmygu mewn llefydd cyhoeddus yng Nghymru ddod i rym.

Dywedodd Llywodraeth Cymru'r llynedd y byddan nhw'n cydweithio gydag awdurdodau lleol i gyflwyno meysydd chwarae di-fwg.

Ond dywedodd Forest, y grŵp o blaid ysmygu, bod gwaharddiad ar ysmygu yn yr awyr agored "yn eithafol".

Dydi'r nifer o ysmygwyr yng Nghymru ddim wedi newid llawer ers canol y ddegawd ddiwethaf, yn ôl ASH.

Meysydd chwarae di-fwg

Mae Cyngor Caerffili wedi gwahardd ysmygu mewn bron i 100 o feysydd chwarae wedi ymgyrch gan bobl ifanc yr ardal.

Dywedodd Prif Weithredwr ASH, Elen de Lacy: "Mae gan bob awdurdod lleol yng Nghymru'r grym i wahardd ysmygu a gorfodi'r rheol ac rydym am iddyn nhw ddilyn arweiniad Cyngor Caerffili.

"Rydym yn gwybod bod plant mewn peryg o gael eu hamlygu i fwg ail law a'u bod yn fwy tebygol o ddechrau ysmygu os ydyn nhw'n gweld oedolion yn ysmygu mewn amgylchedd cyfeillgar teulu.

"Mae'n hollbwysig ein bod yn sicrhau nad yw ysmygu yn cael ei weld fel gweithred gyffredin i leihau nifer y bobl ifanc sy'n dechrau ysmygu ac i leihau eu hamlygrwydd i fwg lle maen nhw'n cyfarfod."

Ond mae Simon Clark o fudiad Forest yn gwrthwynebu'r gwaharddiad yn llym.

"Mae unrhyw waharddiad ar ysmygu yn yr awyr agored yn eithafol," meddai.

"O ran meysydd chwarae, rydym yn gobeithio y byddai ysmygwyr yn defnyddio synnwyr cyffredin ac a dweud y gwir dydi llawer o rieni ddim yn tanio sigarét mewn meysydd chwarae.

"Dydan ni ddim yn gweld pam y dylai cyfyngiadau fod ar ysmygu yn yr awyr agored."

Arolwg annibynnol

Mae gweinidogion y llywodraeth wedi cynnig cyflwyno gwaharddiad ar ysmygu mewn ceir sy'n cludo plant.

Ond mae hyn yn ddibynnol ar ganlyniadau ymgyrch cyhoeddusrwydd i berswadio ysmygwyr rhag ysmygu mewn ceir.

Mae ysbytai yn cael eu hannog i atal pobl rhag ysmygu y tu allan i'w mynedfeydd fel rhan o gynllun rheoli tybaco gafodd ei lansio ym mis Rhagfyr y llynedd.

Canfu'r Arolwg Iechyd Cymreig diweddaraf yn 2010 fod 23% o oedolion yn ysmygu bob dydd neu yn achlysurol.

Yn 2007, pan gafodd ysmygu mewn mannau cyhoeddus ei wahardd, roedd 24% o oedolion yn ysmygu bob dydd neu yn achlysurol.

Ers hynny mae'r nifer o bobl sy'n dweud eu bod wedi eu hamlygu i fwg ail law wedi gostwng.

Dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Tony Jewell ei fod yn galonogol bod 70% o ysmygwyr yn dweud y bydden nhw'n hoffi rhoi'r gorau i'r arfer.

Ychwanegodd y byddai arolwg annibynnol ynghylch gwasanaethau rhoi'r gorau i ysmygu yn cael ei gomisiynu i ganfod gwelliannau.

Dywedodd Chris Mulholland, Pennaeth Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint yng Nghymru: "Mae pobl wedi dechrau sylweddoli'r buddiannau bum mlynedd wedi i ysmygu gael ei wahardd mewn mannau cyhoeddus yng Nghymru.

"Mae'n rhaid i ni symud ymlaen i warchod y cenedlaethau sydd i ddod, boed hynny mewn ceir, meysydd chwarae neu unrhyw le arall."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol