'Codi llais yn erbyn anghyfiawnder'

  • Cyhoeddwyd
Archesgob CymruFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Archesgob Cymru: 'Angen dangos cariad a chodi llais yn erbyn tlodi'

Yn ei neges y Pasg mae Archesgob Cymru yn dweud bod angen i Gristnogion "fyw bywyd o gariad a thrugaredd a chodi llais yn erbyn anghyfiawnder a thlodi."

"Rhaid inni rannu gwerthoedd a gofalon Iesu os ydym i rannu yn ei fywyd atgyfodedig," medd y Dr Barry Morgan sy'n pregethu yn Eglwys Gadeiriol Llandaf ddydd Sul.

Mae'n pwysleisio bod rhaid i bobl bryderu "am bethau fel newyn, rhyfel, trais a thlodi - pethau sy'n difwyno delw Duw ac yn hagru Ei fyd" - a gwneud rhywbeth ynglŷn â hwy.

"Ym mha ffordd arall y gallwn ni dystio i'r ffaith fod Iesu'n fyw ac mai ei werthoedd ef yw'r unig rai sy'n cyfrif yn y pen draw?"

Mae'n galw am ddilyn gwerthoedd Iesu, gwerthoedd maddeugarwch a thrugaredd, tosturi, llawenydd a gwasanaeth.

"Os ydym ni yng Nghrist Iesu, wedi ein bedyddio iddo ac wedi ein cyfodi i fywyd newydd ynddo, yna fe elwir arnom ninnau i fyw gwerthoedd cariad, maddeugarwch a thrugaredd yn ein perthynas â'n gilydd ac â byd Duw. Nid oes prawf mwy na hyn o realiti a grym Atgyfodiad Crist."

Pwysigrwydd

Yn ei neges yntau mae'r Parchedig Ronald Williams, Is-Lywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, yn cyfeirio at bwysigrwydd yr hawl "i fynegi barn grefyddol neu wleidyddol."

"Fel Anghydffurfwyr, rydym yn gwrthwynebu unrhyw ymyrraeth gan lywodraeth gwlad yn yr hawl yma.

"Byddai caniatáu i'r llywodraeth ac asiantaethau eraill i ysbïo ar negeseuon e-bost pawb yn ymyrraeth a datblygiad peryglus."

'Yn drech'

Cafodd Iesu Grist ei hun ei ddienyddio, meddai, oherwydd yr hyn a ddywedodd ac a bregethodd.

"Ond profodd rhyddid Duw yn drech na chosb eithaf llywodraeth, yn drech nac angau ei hun.

"Y Pasg hwn gadewch i ni werthfawrogi ein rhyddid fel Cristnogion a dinasyddion a gwneud popeth o fewn ein gallu i'w warchod."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol