Wylfa: Diffodd un o'r adweithyddion niwclear

  • Cyhoeddwyd
The existing Wylfa plant on AngleseyFfynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,

Wylfa has permission to operate until 2014

Bydd un o'r adweithyddion yn atomfa Wylfa ar Ynys Môn yn cael ei ddiffodd yn ddiweddarach y mis hwn.

Dywed swyddogion y bydd Adweithydd 2, a ddechreuodd weithredu yn 1971, yn rhoi'r gorau i gynhyrchu trydan ar Ebrill 30 oherwydd diffyg cyflenwad tanwydd.

Mae gan Adweithydd 1 drwydded i weithredu tan 2014.

Fis diwetha' penderfynodd cwmni tynnu nôl o gynlluni adeiladu atomfa Wylfa B a ddylai fod wedi'i chwblhau erbyn 2025.

'Parhau cynhyrchiant'

Y bwriad oedd i'r atomfa newydd gymryd lle'r atomfa bresennol.

Roedd undebau, gwleidyddion ac arweinwyr cymunedau wedi datgan eu siom yn dilyn y penderfyniad ond cafodd ei groesawu gan ymgyrchwyr gwrth niwclear.

Ddydd Mawrth, dywedodd cyfarwyddwr safle'r atomfa, Stuart Law: "Mae Adweithydd 2 wedi gweithredu'n ddiogel yn ystod y pedwar degawd diwethaf ac mae'n rhaid rhoi clod i'r gweithlu sydd wedi cynnal a chadw'r safle'n ddiogel.

"Gallwn gadarnhau y bydd yr adweithydd yn cael ei ddiffodd ar Ebrill 30 ac fe fyddwn yn canolbwyntio ar barhau cynhyrchiant Adweithydd 1."

Dywedodd Brian Burnett, pennaeth y rhaglen ar ran yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear, perchnogion y safle, fod gan Wylfa "hanes hir o gynhyrchu trydan yn ddiogel".

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol