Comisiynydd: Penodi panel cynghori

  • Cyhoeddwyd
Meri HuwsFfynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Meri Huws bod y panel yn llawn 'unigolion diddorol'

Mae Leighton Andrews, y Gweinidog sy'n gyfrifol am y Gymraeg, wedi cyhoeddi enwau aelodau Panel Cynghori cyntaf Comisiynydd y Gymraeg.

Yr aelodau yw:

  • Dr Ian Rees;

  • Mrs Virginia Isaac;

  • Mr Gareth Jones;

  • Yr Athro Gwynedd Parry.

Bydd eu penodiadau yn rhedeg o 1 Ebrill 2012 i 31 Mawrth 2015.

Aelodau

Dr Rees yw Cadeirydd y Panel. Mae'n bennaeth Coleg Meirion Dwyfor a tan fis Mawrth eleni bu'n aelod annibynnol ar Fwrdd Cyfarwyddwr y Coleg Cenedlaethol Cymraeg ac o Gyngor Celfyddydau Cymru.

Mae Mrs Virginia Isaac yn rhannu ei hamser rhwng Sir Gaerloyw a de-orllewin Cymru lle mae'n aelod o Gyngor Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant.

Gareth Jones yw cyn bennaeth Ysgol John Bright yn Llandudno, a bu'n Aelod Cynulliad dros etholaeth Conwy ac yn gwasanaethu fel llefarydd Plaid Cymru ar addysg yn y cyfnod hwnnw.

Y mae Gwynedd Parry yn Athro Cyfraith a Hanes Cyfreithiol, ac yn gyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Hywel Dda ym Mhrifysgol Abertawe.

'Diddorol'

Penodwyd y Panel Cynghori o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011.

Caiff y Comisiynydd ymgynghori â'r Panel mewn perthynas ag arfer ei swyddogaeth.

Dywedodd Leighton Andrews "Rwy'n falch iawn bod Dr Rees, Mrs Isaac, Mr Jones a'r Athro Parry wedi cytuno i fod yn aelodau o'r Panel Cynghori.

"Bydd gan y Panel ran bwysig i'w chwarae o ran darparu cymorth a chyngor i'r Comisiynydd."

Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws: "Cafodd aelodau'r Panel eu penodi yn dilyn proses recriwtio allanol.

"Nawr rydym mewn sefyllfa lle mae gen i Banel o unigolion diddorol i droi atynt pan fyddaf angen ymgynghori ar unrhyw fater."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol