Peacocks i gwtogi 147 o swyddi mewn canolfannau dosbarthu
- Cyhoeddwyd
Mae 'na bryder am swyddi bron i 150 o staff Peacocks yn ne Cymru wrth i nifer y gweithwyr yn eu canolfannau dosbarthu gwtogi.
Cwmni Edinburgh Woollen Mill (EWM) sy'n berchen ar Peacocks ar ôl i'r cwmni fynd i drafferthion ariannol yn gynharach eleni.
Yn ôl y perchnogion newydd, mae'n rhaid gwneud arbedion.
Mae'r canolfannau dosbarthu yn Nantgarw, Pentre yn Y Rhondda, ac ym Merthyr Tudful.
Mae cyfnod ymgynghori wedi dechrau gyda staff ac mae'r cwmni yn gobeithio na fydd y ffigwr terfynol cymaint â'r 147.
Caiff 660 o bobl eu cyflogi yn y canolfannau dosbarthu.
Fe wnaeth y cwmni o Gaerdydd gael eu prynu gan EWM gan achub 6,000 o swyddi.
Er hynny cafodd 3,100 o weithwyr eu diswyddo.
Siopau rhyngwladol
Dywedodd llefarydd ar ran Peacocks, fod y toriadau diweddara o ganlyniad i'r hyn etifeddodd EWM drwy brynu'r cwmni o ddwylo'r gweinyddwyr.
Fe fydd un o'r canolfannau dosbarthu yn Aberllechau yn Y Rhondda yn cau. meddai, a staff yn cael eu trosglwyddo i ganolfannau eraill.
O ganlyniad fe fydd rhaid gwneud toriadau gan fod y gangen ryngwladol o'r cwmni yn cau.
Caiff dros 100 o siopau eu gweinyddu yn rhyngwladol o dan system rhyddfraint.
Mae'r rhain a 244 o siopau'r DU yn cau.
Pwysleisiodd y cwmni fod y cynlluniau ar gyfer gweddill y cwmni yn parhau'r un fath.
Maen nhw'n dweud bod dros 200 o bobl wedi cael eu recriwtio ers i EWM gymryd drosodd y cwmni.
Mae'r rhain yn cynnwys tua 50 o weithwyr yn y pencadlys yng Nghaerdydd a drwy ail-agor tua 20 o siopau yn y DU gan gynnwys y brif siop yng Nghaerdydd.
"Roedd peth o'r newidiadau, ail-strwythuro a diswyddiadau yn anorfod," meddai'r llefarydd.
Gwaith ychwanegol
"Ein bwriad yw cael cyn lleied o ddiswyddiadau â phosib.
"Mae hyn yn broses y mae'n rhaid i ni ei wneud ond rydym yn gobeithio bod y canlyniad terfynol yn llawer llai."
Mae'r cwmni yn gobeithio y bydd gwaith ychwanegol yn cael ei ganfod i staff yn y canolfannau dosbarthu o fewn grŵp EWM eu bod modd eu hadleoli i rywle arall.
Roedd Peacocks, gyda 660 o siopau ar draws Prydain, yn cyflogi 9,100 o bobl.
Cafodd y cwmni ei roi yn nwylo'r gweinyddwyr ar ôl methu ailstrwythuro benthyciadau o tua £240 miliwn fel rhan o'u dyledion o £750 miliwn.
Fe wnaeth EWM brynu'r cwmni am £23 miliwn oedd yn cynnwys 338 o siopau, 57 o siopau consesiwn, tair canolfan ddosbarthu a'r pencadlys.
Ym mis Mawrth dywedodd Philip Day, cadeirydd a phrif weithredwr EWM, eu bod fel cwmni yn edrych ar roi "gwerth ychwanegol" er mwyn ennill cwsmeriaid yn ôl.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2012