Peacocks: Gobeithio ailagor 75 siop

  • Cyhoeddwyd
Arwydd arwerthiant PeacocksFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Bydd 250 yn cadw eu swyddi yn y pencadlys yng Nghaerdydd

Mae cadeirydd perchnogion newydd Peacocks wedi dweud ei fod yn gobeithio ailagor 75 o'r 224 o siopau oedd wedi cau.

Dywedodd Philip Day, cadeirydd Edinburgh Woollen Mill (EWM), ei fod eisiau "arbed cynifer o swyddi" ag y gallai.

Ychwanegodd ei fod yn gobeithio ail gyflogi tua 80 o staff a gollodd eu swyddi ym mhencadlys Peacocks yng Nghaerdydd.

Mewn cyfweliad gyda'r Sunday Times, dywedodd Mr Day ei fod yn cynnal trafodaethau gyda landlordiaid er mwyn ceisio ail agor rhai o'r siopau nad oedd yn rhan o'r cytundeb gwreiddiol.

Yr wythnos ddiwethaf, daeth cadarnhad bod y cwmni o'r Alban wedi prynu cwmni Peacocks am swm anhysbys.

Aeth Peacocks i ddwylo'r gweinyddwyr ym mis Ionawr.

Eisoes roedd busnes siopau Bon Marché, rhan o Grŵp Peacocks, wedi ei werthu i gwmni Sun European Partners.

O dan delerau'r cytundeb newydd bydd 6,000 o staff Peacocks yn cadw'u swyddi, gan gynnwys 250 yn y pencadlys yng Nghaerdydd.

Roedd y cwmni'n cyflogi dros 9,000 o weithwyr ac fe fydd 3,000 yn cael eu diswyddo.

'Achub mwy'

Roedd y gweinyddwyr wedi cau 224 o siopau, gan gynnwys 11 yng Nghymru, yn Y Fflint, Abergwaun, Caerfyrddin, dwy yn Llanelli (canol y dre a Pharc Trostre), Morfa Abertawe, Maindy yng Nghasnewydd, Tredegar, a thair yng Nghaerdydd.

Bydd siop Wrecsam yn cael ei hail-leoli.

Yn ôl Mr Day: "Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda'n cydweithwyr newydd ac ail-adeiladu busnes mewn cyfnod ariannol anodd dros ben i fasnachwyr y Stryd Fawr.

"Ac rydym yn gobeithio y bydd modd achub mwy o swyddi o'r siopau fydd yn gorfod cau.

"Fel y gallwch ddychmygu, mae llawer iawn o waith i'w wneud dros y misoedd nesaf i sefydlogi'r sefyllfa, gwella'r busnes, cael y gadwyn gyflenwi i symud eto a denu'r cwsmeriaid gyda chynnyrch newydd."

Mae banciau Barclays a Santander wedi cytuno i helpu Grŵp EWM gyda'r arian ar gyfer y prynu.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol