Gwerthu cwmni Peacocks
- Cyhoeddwyd
Daeth cadarnhad bod cwmni o'r Alban, Edinburgh Woollen Mill (EWM), wedi prynu cwmni Peacocks am swm anhysbys.
Aeth Peacocks i ddwylo'r gweinyddwyr ym mis Ionawr.
Eisoes roedd busnes siopau Bon Marché, rhan o Grŵp Peacocks, wedi ei werthu i gwmni Sun European Partners.
O dan delerau'r cytundeb newydd bydd 6,000 o staff Peacocks yn cadw'u swyddi, gan gynnwys 250 yn y pencadlys yng Nghaerdydd.
Roedd y cwmni'n cyflogi dros 9,000 o weithwyr ac fe fydd 3,000 yn cael eu diswyddo.
'Achub mwy'
Mae'r gweinyddwyr wedi cau 224 o siopau, gan gynnwys 11 yng Nghymru, yn Y Fflint, Abergwaun, Caerfyrddin, dwy yn Llanelli (canol y dre a Pharc Trostre), Morfa Abertawe, Maindy yng Nghasnewydd, Tredegar, a thair yng Nghaerdydd.
Bydd siop Wrecsam yn cael ei hail-leoli.
Dywedodd Prif Weithredwr Edinburgh Woollen Mill, Philip Day: "Rwy'n falch o gyhoeddi y bydd 338 o siopau, 57 o gonsesiynau, tair canolfan ddosbarthu a phencadlys y grŵp yn dod yn rhan o grŵp EWM ar unwaith.
"Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda'n cydweithwyr newydd ac ail-adeiladu busnes mewn cyfnod ariannol anodd dros ben i fasnachwyr y Stryd Fawr.
"Ac rydym yn gobeithio y bydd modd achub mwy o swyddi o'r siopau fydd yn gorfod cau.
"Fel y gallwch ddychmygu, mae llawer iawn o waith i'w wneud dros y misoedd nesaf i sefydlogi'r sefyllfa, gwella'r busnes, cael y gadwyn gyflenwi i symud eto a denu'r cwsmeriaid gyda chynnyrch newydd."
Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, ei fod yn croesawu'r newyddion.
"Yn benodol, mae cadw'r pencadlys yng Nghaerdydd yn newyddion da.
'Cefnogaeth'
"Bydd rhaid aros i weld manylion llawn y cyhoeddiad a sut y maen nhw'n effeithio ar weithwyr ond byddwn yn cynnig cefnogaeth i'r rhai sy'n wynebu colli eu swyddi."
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan: "Mae prynu'r cwmni yn ddechrau cyfnod newydd i'r cwmni a'r gweithwyr er, yn anffodus, y bydd rhai'n colli eu swyddi."
Mae banciau Barclays a Santander wedi cytuno i helpu Grŵp EWM gyda'r arian ar gyfer y prynu.
Dywedodd Mr Day: "Hoffwn ddiolch i'r ddau fanc sydd wedi ein helpu i gwblhau'r cytundeb.
"Mae'r pryniant yn dwysáu gallu masnachu EWM ac yn cadarnhau ein safle fel un o brif werthwyr dillad a ffasiwn y Stryd Fawr."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd9 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd26 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2012