Tafarnwyr Cymru o blaid 'isafswm am alcohol' yn ôl arolwg
- Cyhoeddwyd
Mae arolwg newydd yn dangos bod tafarnwyr yng Nghymru yn cefnogi cyflwyno isafswm pris uned o alcohol.
Yn yr arolwg elusen Alcohol Concern, pan holwyd tafarnwyr a oedden nhw o blaid isafswm o 50c yr uned, dywedodd 77% eu bod yn cefnogi'r syniad.
Cynhaliwyd yr arolwg ym mis Chwefror a mis Mawrth 2012 cyn y cyhoeddiad y byddai isafswm pris am alcohol yng Nghymru a Lloegr.
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn awgrymu isafswm o 40c yr uned ac yn Yr Alban 45c yw'r ffigwr sy'n cael ei drafod.
Isafswm pris
Mae canlyniadau'r arolwg yn dangos y byddai llawer o dafarnwyr Cymru o blaid isafswm uwch o 50c yr uned.
Mae canlyniadau'r ymchwil hefyd yn awgrymu bod nifer fawr o dafarndai Cymru yn cael amser anodd.
Dywedodd bron hanner (48%) fod llai o werthu alcohol yn eu tafarn yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac roedd 61% o'r rhain yn disgwyl i'r lleihad barhau yn ystod y 12 mis nesaf.
Mae'r rhan fwyaf yn bwrw'r bai ar yr archfarchnadoedd, gan ddweud bod cynigion alcohol rhad yn y siopau mawr yn niweidio eu busnes ac mae llawer yn credu y byddai isafswm pris yn creu sefyllfa fwy cyfartal rhwng tafarnwyr a manwerthwyr.
Ymysg canlyniadau'r arolwg mae 94% yn credu bod yr alcohol rhad a werthir yn yr archfarchnadoedd yn un rheswm bod gwerthiant alcohol yn eu tafarn nhw naill ai'n lleihau neu'n aros yn ei unfan ac mae mwyafrif (56%) yn nodi hwn fel y prif reswm.
Ac mae 91% yn credu ei bod yn "rhagrithiol" bod archfarchnadoedd yn cael hyrwyddo alcohol rhad tra bod tafarnwyr yn teimlo eu bod yn cael eu rheoli'n dynn.
'Rhwydd hynt'
Fe ddywedodd 22% o dafarnwyr eu bod weithiau'n prynu eu stoc o fan yna yn lle cyfanwerthwr.
Dywedodd bron i draean (32%) o dafarnwyr tai rhydd (y rhai heb ymrwymiad i fragdy neilltuol) eu bod yn cael alcohol yn y fath fodd.
Mae Mark Leyshon, llefarydd Alcohol Concern Cymru, wedi dweud: "Mae'r arolwg yn dangos bod mwyafrif mawr o dafarnwyr Cymru'n cefnogi'r cynlluniau ar gyfer isafswm uned alcohol.
"Byddai gosod isafswm ddim yn newid rhan fwyaf prisiau'r tafarndai ond fe fyddai'n cadw archfarchnadoedd a siopau eraill rhag gwerthu alcohol rhad iawn.
'Annheg'
"Mae tafarnwyr yn dweud ei bod yn annheg eu bod nhw'n cael y bai am lawer o'r problemau sy'n ymwneud ag alcohol yn ein cymdeithas tra bod yr archfarchnadoedd yn cael rhwydd hynt i werthu alcohol ar ddisgownt mawr.
"Er bod llawer o dafarndai yng Nghymru yn cael eu rheoli'n dda ... mae llawer o'r rhain yn teimlo bod eu busnes yn dioddef oherwydd prisiau anghyfrifol yn y siopau."
"Mae'n eglur y byddai isafswm pris o 50c am uned o alcohol yn help mawr tu hwnt i'n tafarndai, ond byddai hefyd yn fuddiol iawn o ran mynd i'r afael â goryfed a lleihau'r niwed sy'n dod o alcohol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2011