Remploy: Protest yn San Steffan
- Cyhoeddwyd
Mae gweithwyr sy'n ceisio achub eu swyddi yn ffatrïoedd Remploy sydd dan fygythiad wedi ymgasglu yn Llundain ar gyfer rali.
Dywed undebau llafur gall hyd at 1,700 o weithwyr gael eu diswyddo yn ystod yr haf os bydd cynlluniau i gau 36 o ffatrïoedd Remploy yn y DU yn mynd yn ei flaen.
Ym mis Mawrth cyhoeddodd Llywodraeth y DU y bydd saith o'r naw ffatri yng Nghymru yn cau gan fygwth swyddi 272 o bobl anabl.
Dywedodd Llywodraeth y DU nad oedd y ffatrïoedd yn hyfyw yn ariannol a dylai ail-fuddsoddi'r arian mewn cynlluniau eraill i gynorthwyo pobl anabl i ddod o hyd i waith.
'Cefnogaeth enfawr'
Yng Nghymru y ffatrïoedd fydd yn cau yw'r rhai yn Aberdâr, Abertyleri, Pen-y-bont ar Ogwr, Croespenmaen, Merthyr Tudful, Abertawe a Wrecsam.
Mae'r protest yn Llundain yn un o nifer sydd wedi eu cynnal ar draws y DU.
Cafodd safleoedd Remploy eu sefydlu yn 1946 fel rhan o'r Wladwriaeth Les ac mae'r gweithwyr yn ofni na fyddan nhw'n gallu dod o hyd i swyddi newydd.
Mae'r gwaith yn amrywio o wneud dodrefn i ailgylchu offer trydanol.
Yn dilyn protest y tu allan i'r Adran Gwaith a Phensiynau bydd y grŵp yn symud i San Steffan lle bydd gweithwyr yn cynnal cyfarfod bydd yn cael ei gadeirio gan yr Aelod Seneddol Llafur, Ian Lavery.
Dywedodd Phil Davies, ysgrifennydd cenedlaethol undeb y GMB: "Mae'r gwrthdystio ar draws y DU yn dangos cefnogaeth enfawr y cyhoedd i barhau â'r cyllid ar gyfer ffatrïoedd Remploy."
Argymhellodd adroddiad gan Liz Sayce, Prif Weithredwr Disability Rights UK y dylai arian Llywodraeth y DU gael ei ffocysu ar gefnogi unigolion yn hytrach na rhoi cymhorthdal i ffatrïoedd.
Dywedodd y dylai'r arian gael ei ddargyfeirio i gronfa Mynediad i Waith, sy'n darparu technoleg ac sy'n helpu busnesau i'r anabl sy'n gwario, ar gyfartaledd, £2,900 ar bob unigolyn.
Dywedodd yr Adran Gwaith a Phensiynau fod tua un rhan o bump o'r gyllideb honno'n cael ei gwario ar ffatrïoedd Remploy gan ychwanegu bod y rhan fwyaf ohonynt yn gwneud colled.
Y llynedd fe wnaeth ffatrïoedd Remploy golled o £68.3 miliwn.
Dywedodd Mr Davies ei fod yn "warthus" fod Llywodraeth y DU yn diswyddo pobl anabl.
Mae'r undebau wedi honni na fyddai pobl anabl yn gallu cael gwaith yn yr hinsawdd economaidd gyfredol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2012