Gohirio etholiadau Ynys Môn am flwyddyn

  • Cyhoeddwyd

Cadarnhaodd Gweinidog Llywodraeth Leol Cymru, Carl Sargeant, y byddai etholiadau Cyngor Sir Ynys Môn yn cael eu gohirio am flwyddyn er mwyn gorffen adolygiad o drefniadau etholaethau'r cyngor.

Roedd Mr Sargeant wedi dweud fis Tachwedd ei fod yn ystyried newid amseru'r etholiadau o fis Mai 2012 i fis Mai 2013 yn sgil adroddiad Archwilydd Cenedlaethol Cymru a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2011.

Roedd yr adroddiad wedi argymell rhaglen o newidiadau democrataidd i'r cyngor, gan gynnwys adolygiad Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru o'r trefniadau etholaethol, ac y dylai unrhyw newidiadau gael eu cyflwyno cyn yr etholiadau lleol nesa'.

Yn ei adroddiad roedd yr archwilydd hefyd yn argymell y dylid defnyddio grymoedd Adran 87 o'r Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 i ohirio etholiadau Mai 2013 os nad oedd hi'n bosib cyflwyno newidiadau etholaethol cyn mis Mai eleni.

Gorffen adolygiad

Dywedodd y gweinidog: "Fe wnes i ymgynghori gyda llywodraeth leol, y pleidiau gwleidyddol a grwpiau eraill â diddordeb yn y mater.

"Rwy bellach wedi ystyried y mater a'r sylwadau a wnaethpwyd ac wedi penderfynu gweithredu'r grymoedd yn Neddf Llywodraeth Leol 2000 i newid blwyddyn yr etholiadau cyngor ar Ynys Môn o fis Mai 2012 i fis Mai 2013.

"Bydd fy mhenderfyniad yn galluogi'r Comisiwn Ffiniau i orffen eu hadolygiad o'r trefniadau etholaethol ar Ynys Môn, yn rhoi amser i ystyried eu cynigion ac i weithredu unrhyw newid yn nifer y cynghorwyr a dosbarthiad petawn i'n penderfynu gwneud hynny.

"A bydd hefyd yn cynnig sefydlogrwydd wrth i'r cyngor symud tuag at adferiad ehangach yn dilyn y problemau a nodwyd gan yr Archwilydd Cenedlaethol.

'Gwasanaethu'

Parhau â'u gwaith y bydd y comisiynwyr a benodwyd i redeg y cyngor ym mis Mawrth y llynedd nes bod y gweinidog yn hapus fod y cyngor yn gallu rheoli mewn modd cynaliadwy.

Dywedodd Bryan Owen, Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn: "Rydym yn croesawu'r eglurhad yn natganiad Mr Sargeant ynghylch gohirio etholiad llywodraeth leol Môn.

"Rydym yn dal i fod yn erbyn gohirio'r etholiad eleni yn ogystal â'r newidiadau i ffiniau a chyflwyno wardiau aml-aelod ar yr ynys ond mae'r penderfyniad ddydd Mawrth yn ein galluogi i ganolbwyntio ar ein prif flaenoriaeth, gwasanaethu pobl Ynys Môn."

Roedd Ieuan Wyn Jones, Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Fôn, hefyd yn croesawu'r cyhoeddiad.

"Rydw i'n falch fod y gweinidog wedi gwneud y sefyllfa ynglŷn â'r etholiad yn glir erbyn hyn sy'n galluogi'r pleidiau gwleidyddol ar yr ynys i baratoi ar gyfer yr etholiad yn 2013.

"Er bod y gohiriad yn anffodus, credaf mai dyna oedd yr unig ddewis synhwyrol o ystyried yr angen i gytuno ffiniau newydd cyn i'r etholiad gael ei gynnal."

'Yn siomedig'

Dywedodd Janet Finch-Saunders AC, llefarydd y Ceidwadwyr ar Llywodraeth Leol: "Mae'n siomedig fod y Gweinidog Llafur Cymreig, gyda chymorth Plaid Cymru, wedi penderfynu anwybyddu'r broses ddemocrataidd a gwadu llais i bobl Môn ar sut mae eu gwasanaethau lleol yn cael eu cyflwyno."

Yn ôl Aled Roberts, Aelod Cynulliad y Democratiaid Rhyddfrydol dros ogledd Cymru: "Fe wnaeth y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig eu safbwynt yn glir i weinidogion yn ystod y broses ymgynghori nad oedden ni'n cytuno, o ystyried nifer y problemau'n wynebu cyngor Môn, bod 'na unrhyw reswm i ohirio'r etholiadau cyngor tan 2013."

Mae Albert Owen, Aelod Seneddol Llafur Ynys Môn, wedi dweud: "Mae'n bechod ein bod wedi cyrraedd sefyllfa lle mae'n rhaid gohirio etholiadau'r cyngor tan 2013.

"Dyw hyn ddim yn ddelfrydol mewn democratiaeth ... ond os ydyn ni am gael newidiadau democrataidd, fel sydd wedi'u hargymell gan Swyddfa Archwilio Cymru, dyma'r unig ffordd ymlaen ac rwy'n credu fod y rhan fwya' o drigolion Môn yn derbyn hyn."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol