Technoleg o fudd i feirniaid Cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn 2012

  • Cyhoeddwyd
Defnyddwyr SkypeFfynhonnell y llun, AFP
Disgrifiad o’r llun,

Caiff y cystadleuwyr eu cyfweld drwy ddefnyddio Skype

Mae llwyddiant rhyngwladol un o gystadlaethau yr Eisteddfod Genedlaethol wedi arwain y trefnwyr i droi at y dechnoleg ddiweddara er mwyn cynnal cyfweliadau.

Eleni cafwyd y nifer mwya o gystadleuwyr ar gyfer cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn.

Yn ôl y trefnwyr, maen nhw'n dod o Gymru, Lloegr, Ewrop a De America.

Fe fydd cyfweliadau y rownd gynderfynol yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg o fewn dyddiau.

Ond oherwydd nifer y cystadleuwyr o wahanol rannau o'r byd, bydd y cyfweliadau dros gyfnod o ddeuddydd a rhai cystadleuwyr yn cymryd rhan ar y we.

"Mae trefnu'r cyfweliadau wedi bod yn dipyn o her eleni oherwydd bod nifer o'r cystadleuwyr yn byw dramor," meddai Hywel Wyn Edwards, Trefnydd yr Eisteddfod.

'Ymddiddori'n y Gymraeg'

"Rydym felly wedi gorfod trefnu amser sy'n gyfleus ar gyfer gwahanol rannau o'r byd, ac mae hyn wedi cymryd peth amser i'w roi at ei gilydd.

"Byddwn yn defnyddio technoleg Skype am y tro cyntaf eleni, a diolch am y dechnoleg!

"Mae'n braf bod gennym bobl yn ymddiddori ac yn dysgu Cymraeg ym mhob rhan o'r byd a bod modd i'r gystadleuaeth a'r Eisteddfod fod yn hygyrch i bawb, lle bynnag y maen nhw'n byw!"

Bydd enwau'r pedwar sy'n cyrraedd y rownd derfynol yn y gystadleuaeth yn cael eu cyhoeddi dros y penwythnos ar ôl diwrnod o weithgareddau yng Nghanolfan y Celfyddydau Sain Dunwyd.

Tlws

Fe fydd y rownd derfynol ar Awst 8 gyda chyhoeddi enw'r enillydd mewn seremoni arbennig yng Ngwesty'r Bear, Y Bontfaen, y noson honno.

Bydd yr enillydd yn derbyn Tlws gan Ganolfan Cymraeg i Oedolion Caerdydd a Bro Morgannwg, Prifysgol Caerdydd, gyda'r wobr o £300 yn rhoddedig gan Gronfa Gwynfor, Y Barri.

Fe fydd yr Eisteddfod Genedlaethol ar dir hen faes awyr Llandŵ ger Y Bontfaen a Llanilltud Fawr rhwng Awst 4 a 11.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol