Cynnydd yn nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol a chyffuriau
- Cyhoeddwyd
Mae nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau ac alcohol yng Nghymru wedi cynyddu 31% mewn deg mlynedd.
Mae hynny'n cymharu gyda ffigwr o 15% yn Lloegr.
Yn ôl yr ystadegau, bu farw 496 o bobl o ganlyniad i gamddefnydd cyffuriau neu alcohol yn 2010. Roedd hynny'n cymharu â ffigwr o 380 yn 2001.
Yn y cyfamser mae cyfradd y marwolaethau oherwydd achosion y gellir eu hosgoi yn parhau yn uwch yng Nghymru nag yn Lloegr, er y bu gostyngiad o bron chwarter dros gyfnod o 10 mlynedd.
Dywedodd Colin Wolfendale, prif weithredwr Asiantaeth Cyffuriau ac Alcohol Gogledd Cymru, fod angen i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â'r broblem alcohol.
'Dilyn esiampl'
"Yn fy marn i mae'r ffigyrau go iawn hyd yn oed yn waeth, yn enwedig wrth sôn am farwolaeth o ganlyniad i alcohol.
"Dylid gweld y dadleuon ynglŷn â chyflwyno pris isafswm ar gyfer alcohol yng ngoleuni'r ffigyrau hyn.
"Mae'r ffigyrau yn dangos fod y broblem yn waeth yng Nghymru nag yn Lloegr, ac mae'n bryd o bosib i Lywodraeth Cymru ddilyn esiampl yr Alban."
Dywedodd Martin Blakeborough, prif weithredwr elusen cyffuriau Kaleidoscope, fod y ffigyrau yn frawychus ond bod lle i gredu fod y sefyllfa wedi gwella.
"Byddwn yn dweud yn 2001 fod Lloegr yn gwario llawer yn fwy ar y broblem, ac mae Cymru wedi bod ar ei hôl hi.
Cleifion
"Ond dros gyfnod o 10 mlynedd rwyf yn credu fod y bwlch wedi cau rhywfaint, ond bydd hynny ddim yn cael ei ddangos yn y ffigyrau diweddaraf."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod nifer y marwolaethau o gyflwr y gellir osgoi wedi gostwng, ond bod rhaid gofalu rhag llesu dwylo.
"Mae angen i'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru wneud newidiadau sylfaenol i'r modd mae'n gweithredu, er mwyn sicrhau gwell diogelwch a safon, a hefyd er mwyn sicrhau nad yw'r system yn anghynaladwy.
"Mae ein cynllun pum mlynedd ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd yn dangos sut mae sicrhau fod gan gleifion y gallu i gael triniaeth o safon."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2012