Newidiadau i saith gorsaf heddlu?
- Cyhoeddwyd
Fe allai derbynfeydd cyhoeddus mewn saith gorsaf heddlu bach yng nghanolbarth a de-orllewin Cymru gau o dan gynlluniau gan Heddlu Dyfed-Powys.
Mae gorsafoedd Aberdaugleddau, Abergwaun, Dinbych-y-pysgod, Llanbedr Pont Steffan, Ystradgynlais, Rhydaman a'r Trallwng o dan adolygiad.
Mae'n rhaid i'r llu dorri £13 miliwn o gostau erbyn 2015.
Ond maen nhw'n pwysleisio na fyddai'r cynnig yn lleihau gwasanaethau.
Bydd staff sy'n cael eu heffeithio gan y newidiadau yn cael y cyfle am swydd mewn lleoliad arall o fewn y llu, ond nid ydyn nhw'n diystyru diswyddiadau.
Yn gynharach eleni, fe wnaeth Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed Powys, Ian Arundale, sy'n ymddeol ym mis Mehefin, rybuddio am effaith toriadau ar yr heddlu.
'Trobwynt'
"Dydw i ddim yn codi bwganod, dim ond poeni'n wirioneddol sut allwn ni amddiffyn ein cymunedau'n effeithiol ac erlyn troseddwyr os oes rhaid i ni dorri lawr mwy nag yr ydym ni'n barod," meddai Mr Arundale.
"Mae'r argyfwng cyllid yn drobwynt llwyr i blismona yng nghanolbarth a gorllewin Cymru."
Un o'r gorsafoedd sy'n rhan o'r adolygiad yw gorsaf Rhydaman.
Yn gynharach eleni fe ddywedodd y prif gwnstabl bod yr orsaf heddlu, gafodd ei hariannu'n breifat ac sy'n costio cannoedd o filoedd o bunnau'r flwyddyn i'r heddlu, ddim yn rhoi gwerth am arian.
Dywedodd Mr Arundale bod gorsaf Rhydaman, a agorwyd yn 2001, yn rhy gostus, wedi ei chynllunio'n anghywir ac ar y safle anghywir.
Bydd yr heddlu yn gwario tua £700,000 arni eleni, gyda'r gost yn codi tan 2031 o dan Fenter Cyllid Preifat.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd26 Ionawr 2012