Uchelgais Cymru gan Danny Gabbidon o hyd

  • Cyhoeddwyd
Danny GabbidonFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Danny Gabbidon am barhau i chwarae dros ei wlad

Wrth i garfan pêl-droed Cymru deithio i Efrog Newydd i baratoi i wynebu Mecsico yno ddydd Sul mae Danny Gabbidon yn gobeithio parhau a'i yrfa ryngwladol er nad yw yng ngharfan gyntaf Chris Coleman.

Y gêm yn Stadiwm MetLife nos Sul yw gêm gyntaf Coleman wrth y llyw.

Dydi Gabbidon, Rob Earnshaw a James Collins wedi eu cynnwys yn y garfan i deithio i America.

Mae gyrfa Gabbidon, 32 oed, yn ansicr ar hyn o bryd ar ôl i Queens Park Rangers ei ryddhau ar ddiwedd y tymor.

Ond mae'n teimlo y gall barhau i chwarae ar y lefel ucha' ac mae o am ychwanegu at y 46 cap y mae o eisoes wedi eu hennill.

"Dwi eisiau gwneud yn siŵr fy mod ar gael i Gymru ond dwi'n gwybod na fyddaf yn chwarae ym mhob gêm," meddai.

Eilydd

"Dwi'n hapus i fod o gwmpas y garfan a chynorthwyo'r ieuenctid a throsglwyddo fy mhrofiad.

"Pan fyddaf yn cael fy newis i'r garfan, dwi bob tro yn gwneud fy ngorau."

Fe wnaeth Gabbidon ymddeol o'r llwyfan rhyngwladol ym mis Hydref 2010 cyn cael ei berswadio'n ôl gan Gary Speed rai misoedd yn ddiweddarach.

Daeth ymlaen fel eilydd am y tro cyntaf mewn chwe gêm yn Stadiwm Dinas Caerdydd fis Chwefror pan oedd Cymru'n wynebu Costa Rica.

Roedd hon yn gêm deyrnged i Speed.

Mae Coleman wedi defnyddio'r gêm gyfeillgar nos Sul fel cyfle i edrych ar chwaraewyr llai profiadol, rhywbeth nad yw Gabbidon yn ei wrthwynebu.

"Mae nifer o'r chwaraewyr hŷn heb eu dewis ac fe wnaeth Coleman gysylltu gyda mi yn dweud ei fod eisiau edrych ar rai o'r chwaraewyr ifanc.

"Dwi'n deall yn iawn be sydd ganddo mewn golwg.

"Ond mae o wedi dweud wrtha i ei fod am i mi barhau i fod yn rhan o'r garfan a bod fy mhrofiad yn mynd i fod yn rhan o'r ymgyrch nesa'."

Gadael Loftus Road

Roedd gan Gabbidon gytundeb blwyddyn y QPR a ddaeth i ben ddydd Llun.

Dau ymddangosiad wnaeth o i'r tîm o gan gyn-reolwr Cymru Mark Hughes, er ei fod wedi bod yn chwarae'n gyson o dan Neil Warnock.

"Dydi hi ddim yn syndod i mi fod yn gadael Loftus Road," meddai.

"Dwi'n falch bod y clwb wedi aros yn yr Uwch Gynghrair ac yn gobeithio symud ymlaen a gwella ar y canlyniad y tymor nesa'."

Dywedodd ei fod yn gobeithio canfod y cydbwysedd cywir rhwng chwarae'n gyson ar gyfer clwb newydd ac aros ar y lefel ucha' posib.

"Dwi ddim eisiau bod yn eistedd ar y fainc, dwi eisiau bod yn chwarae cymaint o gemau â phosib yn ystod fy mlynyddoedd olaf cyn ymddeol."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol