Airbus: Gohirio trwsio adenydd

  • Cyhoeddwyd
The A380 double-decker jet is the firm's flagship planeFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer o gwmnïau awyrennau wedi canfod craciau yn adenydd yr A380

Mae cwmni Airbus wedi cyhoeddi eu bod yn gohirio gwaith i drwsio craciau yn adenydd yr awyren A380 tan y flwyddyn nesaf.

Dywedodd y cwmni mai bwriad yr oedi oedd sicrhau bod y gwaith trwsio yn cael ei wneud yn iawn unwaith ac am byth.

Dywedodd Is-Lywydd Airbus, Tom Williams: "Y peth hanfodol yw mai dim ond unwaith yr ydym yn mynd i wneud hyn.

"Bydd ateb parhaol i'r broblem yn cael ei gyflwyno yn gynnar y flwyddyn nesaf ar gyfer awyrennau sydd yn hedfan ar hyn o bryd."

Ychwanegodd y byddai'r cwmni yn dechrau adeiladu adenydd A380 yn eu ffatri ym Mrychdyn, Sir Y Fflint, yn 2013 heb y nam sydd wedi achosi'r craciau yn y lle cyntaf.

Mae hyn yn golygu defnyddio math newydd o alwminiwm, ac fe fydd yr awyrennau hynny'n barod erbyn 2014.

Dim perygl

Cwmni awyrennau Qantas o Awstralia oedd un o'r cyntaf i ddod o hyd i graciau yn yr adenydd, ond mae nifer o gwmnïau eraill wedi canfod yr un broblem ers hynny.

Roedd Airbus yn mynnu nad oedd y nam yn peryglu diogelwch yr awyrennau.

Yr A380 yw awyren deithwyr fwyaf yn y byd, ac yn rhan flaenllaw o ymgais Airbus i guro Boeing i fod y cynhyrchydd mwyaf yn y byd yn y diwydiant.