Y Fflam: O'r brifddinas i Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Matt SmithFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yr actor Matt Smith - Dr Who - oedd rhedwr cynta'r fflam ar ail ddiwrnod yr ymweliad â Chymru

Ar ail ddiwrnod y daith drwy Gymru, mae y Fflam Olympaidd wedi mynd o Gaerdydd i Abertawe, lle cafwyd cyngerdd mawreddog i ddathlu'r achlysur ym Mharc Singleton.

Dechreuodd y fflam y daith o Gaerdydd yn blygeiniol fore Sadwrn yn nwylo'r actor Matt Smith, sy'n enwog am chwarae rhan Dr Who.

Rhedodd Smith o'r Eglwys Norwyeg ym mae Caerdydd i'r Senedd ychydig cyn 6:30am, a dywedodd ei fod wrth ei fodd fod tua 1,000 eisoes ar y strydoedd i'w groesawu.

"Mae'n anrhydedd cael bod yn rhan o hyn," meddai.

"Mae'n anodd credu bod pobl wedi dod allan yr adeg yma. Roedd i'n meddwl y byddwn i'n cario'r fflam ar fy mhen fy hun yn chwifio at yr hwyaid.

"Mae'n gyffrous gen i feddwl am yr haf o chwaraeon sydd o'n blaenau. Mae'n wych."

Llio i ZakFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Llio Roberts yn pasio'r fflam i Zak Lee Green y tu allan i Ganolfan y Mileniwm

Fe gariodd Smith y fflam heibio i stiwdios newydd BBC Cymru ym Mhorth y Rhath, sef canolfan gynhyrchu newydd y gyfres Dr Who a sawl cyfres arall.

Trosglwyddodd y fflam wrth y grisiau y tu allan i'r Senedd ym mae Caerdydd i Llio Roberts, merch 14 oed o Gonwy, sydd wedi ei henwebu am ei gorchestion yn y pwll nofio.

Yn dilyn ymweliad â Bro Morgannwg, fe wnaeth y fflam ddychwelyd i Gaerdydd cyn troi tua'r cymoedd, gan deithio drwy Gaerffili, Merthyr Tudful a'r Rhondda.

Sêr y dyfodol

Wrth i'r fflam gyrraedd Caerffili, roedd un o'r cystadleuwyr enwocaf yn hanes y Gemau Olympaidd yn ei disgwyl.

Enillodd Syr Steve Redgrave bump o fedalau aur am rwyfo, ond edrych tua'r dyfodol yr oedd ddydd Sadwrn.

Ef yw cynrychiolydd rhaglen gwyddor chwaraeon sy'n ceisio canfod sêr y dyfodol, ac mae'r grŵp wedi gyrru pecynnau i ysgolion cynradd ac uwchradd drwy'r DU.

Mae'r pecynnau yn profi gallu plant, a hynny mewn nifer o gampau penodol.

Gethin JonesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Gethin Jones gyfle i gario'r fflam Olympaidd ddydd Sadwrn

Dywedodd Redgrave: "Nid mater o fod mewn cyflwr penigamp yn unig yw perfformio ym myd chwaraeon, mae'n fater o baratoi eich hun yn iawn, delio'r gyda'r pwysau meddyliol a deall sut mae eich corff yn gweithio.

"Mae'r pecynnau yn ail-greu rhai o'r elfennau yma mewn modd hawdd fel y gall y teulu cyfan fwynhau a chael ysbrydoliaeth."

Caerffili oedd un o uchafbwyntiau'r daith ddydd Sadwrn, gyda thorf o tua 25,000 yn ymgasglu i fanteisio ar y cyfle i weld y Fflam Olympaidd.

Amcangyfrifir bod rhwng 10,000 a 15,000 wedi ymgasglu yn Nhreorci, 7,000 yn Nhreherbert, 7,000 ym Mhontypridd, a 15,000 ym Merthyr.

Only Men Aloud

Rhwng Mai 25 a Mai 30, bydd y fflam yn pasio drwy 80 o bentrefi, trefi a dinasoedd Cymru cyn gadael am Stoke-on-Trent ddydd Mercher.

Fe wnaeth y rhedwr olaf ddydd Sadwrn drosglwyddo'r fflam fach i grochan arbennig ym Mharc Singleton, lle cynhaliwyd sioe gerddorol am dwy awr.

Ymhlith y perfformwyr nos Sadwrn roedd y côr o Gaerdydd, Only Men Aloud.

Ond cyn i'r cyngerdd ddechrau, fe wnaeth y dathliadau gychwyn am 1:00pm gyda phentref chwaraeon yn rhoi'r cyfle i ymwelwyr roi cynnig ar ystod eang o gampau, ynghyd â gwylio arbenigwyr wrthi yn ogystal.

Fe wnaeth enillydd medal arian yn y Gemau Olympaidd yn Seoul yn 1988, Colin Jackson, redeg un o'r cymalau olaf wrth gyrraedd Abertawe.

Daeth torf o 16,000 o dorf i gyngerdd yng Nghae Cooper yng nghysgod Castell Caerdydd nos Wener am gyngerdd arbennig i groesawu'r fflam.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol