Y Fflam Olympaidd yn cyrraedd
- Cyhoeddwyd
Gyda'r rhagolygon yn addo tywydd braf iawn, mae torfeydd mawr wedi ymgasglu yn y de ddwyrain i weld Taith y Fflam Olympaidd yng Nghymru ddydd Gwener.
Gadawodd y fflam Gaerwrangon ar seithfed diwrnod y daith o amgylch Prydain wrth i'r athletwr Darren Campbell ei chludo.
Roedd wedi cyrraedd Trefynwy ychydig cyn 11am cyn mynd i'r Fenni, Brynmawr, Blaenafon, Abersychan, Pont-y-pŵl a Chasnewydd cyn gorffen y diwrnod yng Nghaerdydd.
Fe fydd yn teithio o amgylch Cymru tan ddydd Mercher, Mai 30.
Rhybudd
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi rhybuddio unrhyw un sy'n bwriadu mynd i ddigwyddiadau'n ymwneud â'r Fflam i fod yn ofalus oherwydd y tywydd poeth.
Daeth rhybudd hefyd i fusnesau a thrigolion gan y bydd nifer o ffyrdd yn cau wrth i'r fflam basio heibio.
Yn Nhrefynwy roedd diddanwyr ar y strydoedd, gŵyl yr afon yn cael ei chynnal a nifer o ddigwyddiadau'n ymwneud ag ysgolion.
Bu'r fflam wedyn ar ymeld â'r cyntaf o nifer o Safleoedd Treftadaeth y Byd yng Nghymru wrth gyrraedd y Pwll Mawr ym Mlaenafon.
Bydd gosgordd y fflam, sy'n cynnwys 14 o brif gerbydau, wedyn yn mynd i Abersychan, Pont-y-pŵl, Casnewydd a Chaerdydd.
Bu rhedwyr yn cario'r fflam drwy ganol y brifddinas, gan basio Castell Caerdydd, Neuadd Dewi Sant a Stadiwm y Mileniwm.
Enwogion
Mae trefnwyr y daith yn gyndyn o ddatgelu enwau'r enwogion fydd yn cario'r ffagl, ond roedd capten tîm rygbi Cymru, Sam Warburton, yn cymryd rhan yng Nghaerdydd yn ogystal â Lynn Davies, sydd wedi ennill medal aur mewn Gemau Olympaidd.
Fe gyhoeddwyd y bydd yr actor Matt Smith yn cludo'r Fflam ddydd Sadwrn yng Nghaerdydd.
Ar ddiwedd y daith i'r brifddinas nos Wener, roedd cyngerdd arbennig i dorf o 16,000 o bobl yng Nghae Cooper gyda'r grwpiau roc You Me at Six a Kids in Glass Houses a'r gantores Emeli Sande.
Ar gau
Mae canol y ddinas ar gau i drafnidiaeth rhwng 5.30pm a 7pm ddydd Gwener.
Ond fe allai'r ffyrdd gau ynghynt (rywdro ar ôl 4pm) os oes llawer o bobl yn yr ardal.
Mae dyn tywydd BBC Cymru, Derek Brockway, wedi dweud y bydd y tywydd yn ardderchog ddydd Gwener.
"Dyma fydd diwrnod poetha'r flwyddyn hyd yma," meddai.
"Bydd Trefynwy yn gweld y tymheredd yn cyrraedd 25°C gyda gwynt ysgafn, ac fe fydd hi'n noson gynnes braf ar gyfer y cyngerdd gyda'r nos yng Nghaerdydd."
Roedd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, a Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Cymru, yn Nhrefynwy i groesawu'r fflam.
"Fe fydd y fflam yn taflu golau ar lefydd, pobl, gwerthoedd a thraddodiadau Cymru," meddai Mrs Gillan.
'550 o redwyr'
"Dros y pum niwrnod nesaf fe fydd tua 550 o redwyr yn cludo'r fflam ar hyd dros 300 o strydoedd Cymru gan roi cyfle arbennig i ddathlu'r Gemau fel gwlad."
Mae disgwyl i'r fflam deithio oddeutu 8,000 o filltiroedd o amgylch y DU dros gyfnod o 70 diwrnod cyn cyrraedd y Stadiwm Olympaidd ar gyfer tanio'r Grochan Olympaidd yn Seremoni Agoriadol y Gemau yn Llundain ar Orffennaf 27.
Ar gyfartaledd bydd 115 o redwyr yn cario'r fflam bob dydd yn ystod y daith.
Dywed y trefnwyr mai'r nod yw y bydd 95% o boblogaeth y DU rywle o fewn awr i lwybr y fflam.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Mai 2012
- Cyhoeddwyd26 Mai 2012
- Cyhoeddwyd24 Mai 2012
- Cyhoeddwyd24 Mai 2012
- Cyhoeddwyd24 Mai 2012
- Cyhoeddwyd24 Mai 2012
- Cyhoeddwyd23 Mai 2012
- Cyhoeddwyd18 Mai 2012
- Cyhoeddwyd19 Mai 2012
- Cyhoeddwyd10 Mai 2012