Shelter Cymru: Pryder am ffïoedd gweinyddu tenantiaid
- Cyhoeddwyd
Mae rhai tenantiaid sy'n chwilio am rentu eiddo yng Nghymru yn gorfod talu bron i £600 mewn ffïoedd gweinyddu, yn ôl ymchwil.
Dywedodd yr elusen Shelter Cymru fod holl gost sefydlu tenantiaeth yn aml yn cael ei chuddio ac maen nhw am i reolau newydd gael eu cyflwyno i wneud y broses yn fwy tryloyw.
Cysylltodd yr elusen â chwmnïau gosod ar draws Cymru ac roedd gwahaniaethau mawr o ran ffïoedd.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn rhannu pryderon Shelter Cymru.
Yn ôl yr elusen, roedd rhai asiantaethau'n codi £594 ac nid oedd y rhan fwyaf o'r ffïoedd yn cael eu hysbysebu'n ddigon da, gan adael i denantiaid posib wynebu costau annisgwyl.
Dywedodd Shelter Cymru fod y sector rhentu preifat yn rhan gynyddol bwysig o'r farchnad dai yng Nghymru.
'Anfforddiadwy'
"Rhaid i chi gwestiynu pa mor rhesymol yw'r ffïoedd hyn pan y gall ymchwiliadau i statws credyd gael eu cynnal ar-lein am £20 a bod cytundebau tenantiaeth fel arfer yn gytundeb templed safonol," meddai John Puzey, cyfarwyddwr yr elusen.
"Mae'r math hwn o ffïoedd anrheoledig, sydd erbyn hyn yn anghyfreithlon yn Yr Alban, yn gwneud y sector rhentu preifat yn fwy anfforddiadwy yn ystod cyfnod pan mae pobl yng Nghymru eisoes yn brwydro i ddarganfod a chadw llety."
Ychwanegodd Mr Puzey fod rhai asiantaethau yn codi ffi weinyddol o ran eu holl denantiaid tra bod asiantaethau eraill yn dibynnu ar lefel y rhent.
"Mae'r diffyg tryloywder yn golygu bod pobl yn talu ffïoedd ychwanegol am ei bod bron yn amhosib iddyn nhw wneud dewis cytbwys pan maen nhw'n dechrau'r broses o rentu cartref," meddai.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn rhannu pryderon yr elusen.
Ychwanegodd y llywodraeth eu bod yn bwriadu cyflwyno deddfau newydd i sicrhau bod pobl sy'n rhentu cartrefi yn y sector preifat yn cael eu trin yn deg.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd23 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2011