Pryder am gofrestr risg Bwrdd Iechyd Hywel Dda

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty'r Tywysog PhilipFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Dywed y bwrdd fod Ysbyty'r Tywysog Philip 10 milltir o Ysbyty Treforys yn Abertawe

Mae un o gyfreithwyr esgeulustod meddygol mwyaf blaenllaw Prydain wedi dweud ei fod yn poeni am beryglon honedig sy'n gysylltiedig â bwrdd iechyd.

Cafodd rhaglen BBC Cymru Week in Week Out hyd i gofrestr risg byrddau iechyd Cymru heblaw am un Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.

Dywedodd Ian Cohen o gwmni Goodman's Law wrth y rhaglen ei fod yn poeni am gofrestr risg Bwrdd Iechyd Hywel Dda.

Yn benodol, roedd yn poeni am eitem gafodd ei chofnodi fel "y risg uchaf" sy'n cyfeirio at y perygl o gleifion yn cyrraedd adran ddamweiniau ac achosion brys Ysbyty'r Tywysog Philip, Llanelli, pan nad oedd ddigon o staff meddygol yno.

Canolfannau gofal brys

"Mae'n dweud fod hon yn risg fwya o ran gofal cleifion ... mae'n dweud bod hon yn broblem ddifrifol heddiw," meddai.

"Beth sy'n fwy pryderus yw bod y broblem wedi ei chanfod mor bell yn ôl â Rhagfyr 1 2010."

Ffynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Côr Meibion Llanelli ymhlith y cannoedd o bobl oedd wedi teithio i Fae Caerdydd

Mae'r bwrdd iechyd wedi dweud bod problemau'n cael eu lleddfu bob dydd.

Rhaid i bob un o fyrddau iechyd Cymru gynllunio i arbed miliynau o bunnoedd dros y blynyddoedd nesaf.

Ond mae'r ofn y gallai Bwrdd Iechyd Hywel Dda ganoli llawdriniaeth brys yn Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin a gwneud Ysbyty Bronglais, Aberystwyth, Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd, ac Ysbyty'r Tywysog Philip, Llanelli yn ganolfannau gofal brys wedi arwain at brotestiadau.

Yn y cyfamser, mae cwpl o Bowys sydd wedi ymddeol wedi penderfynu symud i fyw'n nes at ysbyty.

Mae Ann a John Johnson wedi byw yn Llanidloes ers 15 mlynedd ond wedi penderfynu symud oherwydd eu bod yn poeni am ddyfodol gwasanaethau clinigol Ysbyty Bronglais.

'Mwy o bobl yn marw'

"Mae'n ddigon gwael gorfod mynd ar daith hir i Aberystwyth ar heolydd troellog os ydych chi mewn poen ond mae'n rhaid ichi gael y driniaeth briodol o fewn yr awr euraidd i gael y cyfle o oroesi," meddai Mrs Johnson.

"Rhaid inni edrych ar ôl ein hunain a dyma'r ffordd i wneud hynny."

Dywedodd Dr Stephen Leslie o Ganolfan Iechyd Llanidloes ei fod yn poeni am gleifion y mae meddygon lleol yn ceisio eu sefydlogi cyn eu hanfon i Ysbyty Bronglais.

"Y gwir yw hyn - ni allwch chi ddibynnu ar gael gafael ar ambiwlans o fewn amseroedd fyddai'n dderbyniol i bobl sy'n byw mewn trefi," meddai.

"Mae pobl yn gwybod bod gwell siawns o oroesi os ydych chi'n cyrraedd ysbyty o fewn yr awr euraidd.

"Gallwch gyrraedd Aberystwyth o Lanidloes o fewn yr awr euraidd honno ond os ydych chi'n gorfod teithio'n bellach ni fyddai hynny'n bosib ac fe fyddai mwy o bobl yn marw o drawma."

'Gwrando ar farn leol'

Dywedodd parameddyg dienw â blynyddoedd o brofiad yn y canolbarth a'r gorllewin wrth y rhaglen: "Rydym eisoes yn cludo cleifion yn bell ond os yw mwy o wasanaethau'n cael eu hisraddio fe fydda i a'm cyd-weithwyr yn gwylio mwy o bobl yn marw yng nghefn yr ambiwlans, gan wybod na allwn ni wneud dim byd mwy iddyn nhw heblaw gyrru'n gyflymach.

"Ni fyddai hynny'n dderbyniol i ni na'r cleifion."

Yn y cynlluniau gyhoeddwyd am ail-edrych ar ddarpariaeth gofal brys yn ysbytai'r gorllewin a'r canolbarth fe fyddai gwasanaeth damweiniau ac achosion brys llawn ar gael yn Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd neu Ysbyty Bronglais.

Mae'r bwrdd iechyd wedi dweud eu bod yn "gwrando ar farn leol" cyn yr ymgynghori ffurfiol.

Cannoedd

Hefyd maen nhw'n dweud bod Ysbyty'r Tywysog Philip 10 milltir o Ysbyty Treforys yn Abertawe a hanner awr i ffwrdd o Ysbyty Glangwili.

Yr wythnos diwethaf teithiodd cannoedd o bobl o ardal Llanelli i Fae Caerdydd er mwyn cyflwyno deiseb â 26,000 o enwau arni.

Nod y ddeiseb, un o'r rhai mwya gafodd eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru, yw galw ar y llywodraeth i ddiogelu gwasanaethau yn Ysbyty'r Tywysog Philip yn y dre'.

Dywedodd un o'r protestwyr, Tony Flatley wrth raglen Week in Week Out: "Rydym wedi profi mai poblogaeth dalgylch Ysbyty'r Tywysog Philip yw un fwyaf ardal y bwrdd iechyd ac mae'r boblogaeth yn dal i gynyddu gyda chynlluniau ar y gweill i adeiladu mwy o dai yn Llanelli."

Mae'r bwrdd iechyd wedi dweud eu bod yn cydnabod y peryg o bobl yn cyflwyno eu hunain i'r ysbyty pan nad oedd digon o staff meddygol ar gael ond bod y broblem yn cael ei lleddfu'n ddyddiol.

Dywedodd Kathryn Davies, Cyfarwyddwr Therapïau a Gwyddorau Iechyd y bwrdd: "Mae Hywel Dda yn gwario £10 miliwn y flwyddyn ar ddirprwy feddygon i sicrhau bod gennym staff yn bresennol ... nid yw hynny'n gynllun cynaliadwy o ran y dyfodol."

Ychwanegodd fod y bwrdd yn hysbysebu am ddau lawfeddyg cyffredinol yn Ysbyty Bronglais i gymryd lle'r meddyg ymgynghorol sydd ar fin ymddeol.

Week in Week Out, 10.35pm, BBC 1 Cymru, nos Fawrth.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol