Hyfforddiant i geisio lleihau goryfed

  • Cyhoeddwyd
Alcohol
Disgrifiad o’r llun,

Mae 1,000 o farwolaethau yng Nghymru bob blwyddyn yn gysylltiedig ag alcohol

Mae rhaglen o hyfforddiant i geisio lleihau'r niwed sy'n cael ei achosi gan alcohol wedi cael ei lansio yn y Deml Heddwch yng Nghaerdydd.

Cafodd y rhaglen - Rhaglen Genedlaethol Ymyriadau Byr ar Alcohol - ei llunio ar y cyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, Prifysgol Caerdydd a Llywodraeth Cymru.

Y nod yw rhoi canllawiau i staff sy'n gweithio mewn unedau'r geg, clinigau trawma, gweithwyr cymdeithasol, bydwragedd neu staff proffesiynol neu wirfoddol eraill sy'n dod i gysylltiad cyson â phobl sy'n yfed gormod.

Bydd y rhaglen yn eu cynorthwyo i gynnig cefnogaeth a chyngor i bobl sy'n yfed maint niweidiol o alcohol i'w galluogi i leihau eu lefelau yfed.

Bob blwyddyn yng Nghymru mae 1,000 o farwolaeth oherwydd alcohol, ac mae arolygon wedi dangos bod 40% o boblogaeth Cymru yn yfed mwy na'r canllawiau iach presennol.

Yr amcangyfrif yw bod alcohol a chyflyrau cysylltiedig yn costio £80 miliwn bob blwyddyn i'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru.

Problem

"Nid nod y Rhaglen Genedlaethol Ymyriadau Byr ar Alcohol yw dweud wrth bobl am beidio ag yfed o gwbl," meddai Dr Sarah Jones, ymgynghorydd gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru ac arweinydd iechyd y rhaglen.

"Gellir mwynhau alcohol fel rhan o ffordd iach, arferol o fyw.

"Fodd bynnag, pan fydd pobl yn yfed i'r graddau ei fod yn amharu ar eu hiechyd, eu swydd neu eu bywyd preifat yna mae ganddyn nhw broblem yn amlwg.

"Fel cymdeithas yr ydym yn aml yn ei chael hi'n anodd siarad am alcohol gan ein bod yn ofni cael ein labelu fel rhywun alcoholig.

"Gall hyn olygu bod pobl yn dioddef yn ddiangen pan ddylai'r bobl o'u hamgylch fod yn eu hannog i chwilio am help neu gyngor ynghylch faint maen nhw'n ei yfed.

"Mae'r rhaglen hyfforddi hon ar gael yn hawdd i bobl sy'n gweithio neu sy'n gwirfoddoli mewn bob math o sefyllfaoedd iechyd a gofal cymdeithasol.

2Bydd y rhaglen hyfforddi fyrraf yn cymryd dim ond chwarter awr, ond gall hyd yn oed hynny helpu rhywun i gael effaith enfawr ar unigolyn sy'n yfed gormod."

Beth yw uned?

Mae llywodraeth y DU yn argymell na ddylai dynion yfed mwy na 3-4 uned y dydd ac na ddylai menywod yfed mwy na 2-3 uned y dydd.

Fodd bynnag, cydnabyddir bod dryswch ynghylch beth yn union yw uned - ymysg y cyhoedd a hyd yn oed ymysg rhai gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol.

"Fy swyddogaeth i fel athro llawfeddygaeth sydd wedi arwain treialon clinigol o gyngor cryno, newydd wedi'i deilwra i fynd i'r afael â chamddefnyddio alcohol, yw rhoi ar waith yr hyn yr ydym wedi'i ddarganfod yn ystod y treialon hyn mewn ysbytai yng Nghymru," meddai'r Athro Jonathan Shepherd, Athro ym Mhrifysgol Cymru Caerdydd.

"Rwyf am sicrhau bod pawb sydd wedi cael eu hanafu, pan fydd eu pwythau'n cael eu tynnu, yn cael eu cymell i yfed yn synhwyrol."

Mae hyfforddiant Ymyriadau Byr ar Alcohol eisoes wedi cael ei gynnig i Feddygon Teulu a Nyrsys Practis yng Nghymru.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol