Newid y system gymwysterau?
- Cyhoeddwyd
Mae arolwg yn gofyn a ddylai'r system gymwysterau ar gyfer disgyblion rhwng 14 oed a 19 oed yng Nghymru newid.
Yn ôl cadeirydd yr arolwg, Huw Evans, Prifathro Coleg Llandrillo, dylai'r cyrsiau ar gael i ddisgyblion "fod yn llawer llai".
Mae'r arolwg hefyd yn gofyn a ddylai'r system gymwysterau yng Nghymru fod yn wahanol i'r drefn yng ngweddill y Deyrnas Gyfunol.
Dywedodd Llywodraeth Cymru, a gomisiynodd yr arolwg, eu bod am "symleiddio'r system".
Ond mae undeb wedi rhybuddio y byddai newidiadau'n arwain at "ansefydlogrwydd".
'O'r pwys mwya'
Bydd y Dirprwy Weinidog Sgiliau, Jeff Cuthbert, yn cynnig argymhellion yn yr Hydref.
Dywedodd: "Mae Llywodraeth Cymru am ... sicrhau bod y system yn darparu ar gyfer ein dysgwyr a'n heconomi.
"Yr adeg hon o'r flwyddyn mae cymwysterau o'r pwys pennaf i nifer o bobl ifanc a'u teuluoedd.
"Rhaid i ni sicrhau bod eu gwaith caled a'u cyraeddiadau yn cael eu gwobrwyo â chymwysterau sy'n parhau i fod yn berthnasol, yn cael lle teilwng ac yn addas ar gyfer y ganrif hon."
'Ansefydlogrwydd'
Dywedodd Ysgrifennydd Cyffedinol yr NAS/UWT, Chris Keates: "Eisoes mae meysydd llafur arholiadau sawl pwnc wedi eu cyflwyno ers dwy flynedd a bydd mwy o newidiadau'n arwain at ansefydlogrwydd mawr i ysgolion a disgyblion."
Dylai gweinidogion, meddai, osgoi datblygu trefn fyddai dim ond yn ymateb i anghenion cyflogwyr a'r economi yn lle anghenion pobl ifanc.
Mewn dogfen ymgynghorol , dolen allanol gafodd ei lansio ddydd Iau, mae'r arolwg yn gofyn a ddylai cymwysterau hollol newydd gymryd lle arholiadau TGAU.
Mae'r arolwg hefyd yn codi pryderon am safonau llythrennedd a rhifedd.
Dywedodd cyflogwyr wrth banel yr arolwg eu bod dim ond yn ystyried graddau A i C mewn Saesneg, Cymraeg a Mathemateg yn "arwydd cychwynnol" o ddawn.
"Maen nhw'n dweud wrthon ni nad yw ymgeiswyr gyda'r cymwysterau hyn o reidrwydd yn llythrennog a rhifog," meddai'r arolwg.
Un cynnig yw "cymhwyster cynhwysol" fydd yn darparu "addysg gydlynol a chynhwysfawr."
'Ymateb'
Dywedodd Mr Evans fod mwy o bobl ifanc 16 oed yn aros yn y system addysg yn lle gadael ysgol a chwilio am waith.
"Rhaid i'r system gymwysterau ymateb i'r newidiadau hyn a'r heriau fydd yn datblygu.
"Mae'n holl bwysig fod pobl ifanc mewn addysg yn cael y wybodaeth, sgiliau, dealltwriaeth a chymwysterau sydd eu hangen arnyn ym meysydd addysg a gwaith sydd yn gynyddol gystadleuol," meddai.
Dywedodd llefarydd addysg y Ceidwadwyr, Angela Burns; "Efallai y dylai Llywodraeth Cymru ymgynghori ynghylch y cwestiwn a yw eu polisïau yn addas ai peidio yn hytrach na cheisio beio'r cymwysterau am eu methiannau parhaus.
"Pan mae Cymru yn perfformio'n waeth na gwledydd eraill yn y DU pam fod y Gweinidog yn tybio mai'r cymwysterau sydd ar fai yn lle methiant y Blaid Lafur i godi safonau yn ystod y 13 blynedd maen nhw wedi bod mewn grym?"
'Pryder'
Dywedodd llefarydd addysg Plaid Cymru, Simon Thomas: "Mae hyn yn rhywbeth y bu Plaid Cymru yn galw amdano ers peth amser ac rwy'n falch fod y llywodraeth yn cynnal yr adolygiad.
"Mynegais bryder cyn hyn wrth y gweinidog fod y sector addysg yn cael ei farchnadeiddio a gelwais am un system o arholiadau er mwyn sicrhau safoni cymwysterau myfyrwyr Cymru a'u bod yn gwirioneddol fesur lefelau cyrhaeddiad mewn sgiliau sylfaenol.
"Rwy'n gobeithio, o ganlyniad i'r adolygiad hwn, y gall y llywodraeth ddwyn gerbron system safonedig o gymwysterau fydd yn gyson a thryloyw ..."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd4 Mai 2012
- Cyhoeddwyd15 Mai 2012