Gwrthwynebwyr niwclear yn creu strategaeth gwaith i Fôn
- Cyhoeddwyd
Mae grŵp ymgyrchu sydd yn erbyn adweithyddion niwclear newydd yn anelu at greu strategaeth gwaith ar gyfer Ynys Môn.
Pobol Atal Wylfa B (PAWB) sydd y tu cefn i Maniffesto Môn Y Ffordd Ymlaen a fydd yn cael ei lansio yn Llangefni ddydd Gwener.
Dr Carl Clowes yw awdur y maniffesto a fydd yn awgrymu dyfodol economaidd amgen ar gyfer Ynys Môn.
Mae Rhaglen Ynys Ynni Môn, a sefydlwyd dwy flynedd yn ôl yn anelu at ymchwilio i ynni a'i ddatblygu.
Dywedodd y mudiad bod canran uchel o bobl ifanc yn gadael y sir.
Yn ôl PAWB mae gwleidyddion o bob cefndir wedi arwain pobl yr ynys i gredu mai Wylfa B yw'r ateb i bob problem.
'Gwagle cyflogaeth'
Yn gynharach yn y flwyddyn fe gyhoeddodd cwmnïau E.ON a RWE npower na fyddan nhw'n parhau i godi gorsafoedd niwclear newydd ym Mhrydain, gan gynnwys eu bwriad drwy gwmni Horizon i godi Wylfa B.
Dywedodd PAWB bod penderfyniad Horizon i gamu'n ôl o'r datblygiad a'r pryderon cynyddol am y diwydiant niwclear wedi trychineb yn Fukushima yn arwain at "wagle mewn perthynas â chyflogaeth ar yr ynys".
Yn hanesyddol, mae PAWB wedi ymgyrchu yn erbyn adweithyddion newydd.
"Wyneb-yn-wyneb â'r ansicrwydd cynyddol i'n pobl ifanc, mae'r mudiad wedi datblygu amlinelliad o strategaeth amgen ar gyfer cyflogaeth ar yr ynys ac yn annog pawb o ba gefndir bynnag i'w gefnogi," meddai llefarydd ar ran PAWB.
Pan gyhoeddwyd na fyddai cwmnïau E.ON a RWE npower yn parhau i godi gorsafoedd niwclear newydd dywedodd Sasha Wynn Davies, Cyfarwyddwr Rhaglen Ynys Ynni Môn bod eu cyhoeddiad yn "gam mawr yn ôl".
"Ond mae'r holl waith dros y ddwy flynedd ddiwethaf ers sefydlu'r Rhaglen Ynys Ynni yn siŵr o ddenu buddsoddwyr eraill, " meddai
"Yn wir, mae'r gwaith wedi datblygu sail gadarn ar gyfer unrhyw fuddsoddwr newydd."
Dywedodd PAWB mai prif bwyntiau'r ddogfen yw:
Mae dibyniaeth ar ynni niwclear newydd ar ben. Mae gormod o amser wedi'i golli a gormod o adnoddau wedi eu gwastraffu wrth arwain pobl i lawr llwybr diobaith
Mae 'na ddewisiadau amgen yn seiliedig ar adnoddau cynhenid ar neu o gwmpas yr ynys. O'u datblygu yn effeithiol - ac fel rhan o bolisi integredig Cymru gyfan - ceir mwy na digon o'r ynni sydd ei angen arnom ni
Mae'r strategaeth yn gosod yr achos dros agenda sy'n gydnaws â'r gweithlu sydd ar gael neu sydd yn debygol o fod ar gael yn y dyfodol cymharol agos. Mae agenda o'r fath yn osgoi'r math o broblemau all godi gyda gweithlu mudol sy'n anorfod gyda datblygiad anferthol fel y bwriadwyd gyda Wylfa B, problemau megis prinder tai lleol, tyndra cymdeithasol a'r her i'r iaith
Mae'r strategaeth yn mynd ymlaen i gydnabod y diwydiannau pwysig eraill ar yr ynys, yn arbennig twristiaeth ac amaethyddiaeth ac, ar yr un pryd, yn tanlinellu'r pwysigrwydd o warchod yr amgylchedd glân di-lygredd sydd mor bwysig ar gyfer eu datblygu a'u hyrwyddo ymhellach
O fewn y canllawiau uchod, mae'r strategaeth yn adnabod cyfleoedd ar gyfer 2,500-3,000 o swyddi mewn amrywiaeth o fentrau. Mae PAWB yn annog y Gweinidog dros Fusnes, Menter a Thechnoleg Wybodaeth yn Llywodraeth Cymru i hyrwyddo'r cynigion hyn fel rhan o waith Parth Menter Ynys Môn
Mae PAWB yn gweld penderfyniad Horizon i gefnu ar Ynys Môn yn gyfle i greu economi hunangynhaliol a deinamig fedr fanteisio ar rai o'r adnoddau gorau sydd i'w cael yn unlle. Mae hyn yn her positif sy'n gofyn am arweiniad. Mae PAWB yn falch o'r cyfle i ymateb ac yn gobeithio y bydd pobl Ynys Môn yn dangos ymrwymiad i'r ffordd hon ymlaen a sicrhau dyfodol cyffrous a blaengar i'r ynys
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd30 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2012