Ffrwydrad: Cofio'r rhai a gollwyd

  • Cyhoeddwyd
Safle Purfa Olew ChevronFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y ffrwydriad yn ystod gwaith cynnal a chadw

Mae gweithwyr purfa a phobl leol yn nodi blwyddyn i'r diwrnod ers i bedwar o bobl farw yn dilyn ffrwydrad mewn purfa olew yn Sir Benfro.

Bu farw Julie Jones, 54, Andrew Jenkins, 33, Dennis Riley, 52, a Robert Broome 48, o ardal Aberdaugleddau yn ffatri Chevron ym Mhenfro.

Cafodd pumped person ei anafu'n ddifrifol.

Bydd staff y burfa yn dod at ei gilydd ar gyfer cyfnod o dawelwch er cof am y rhai a gollwyd.

Dywedodd llefarydd ar ran cwmni Valero, wnaeth brynu'r safle oddi wrth Chevron: "Bydd safleoedd diwydiannol eraill ar yr aber hefyd yn nodi'r cyfnod o dawelwch am 1.30pm dydd Sadwrn.

"Fe fydd gweddïau yn cael eu hadrodd yn nhrefi Penfro ac Aberdaugleddau er cof am y rhai a gollwyd."

Mae swyddogion arbennig Heddlu Dyfed-Powys yn parhau i roi cefnogaeth a chwnsela i'r teuluoedd.

Dywedodd Jack Archer, mab Julie Jones, hwn wedi bod yn flwyddyn anodd iawn i'r teulu.

"Roedd fy mam o deulu mawr, roedd hi'n fam gariadus, yn fam-gu, yn chwaer ac yn fodryb. Roedd ei theulu yn ei charu ac rydym yn ei cholli hi'n fawr ac yn meddwl amdani drwy'r amser," meddai.

Dywedodd Jane Summons partner Andrew Jenkins: "Bydd Mehefin 2 2011 yn parhau yn un o ddiwrnodau mwyaf du mae fi a fy nheulu erioed wedi gorfod ei oroesi."

"Fe wnaeth newid fy mywyd a bywydau ein plant Bobby a Jack am byth."

Dywedodd Anita Broome fod ei gŵr Robert yn ddyn "caredig ac ystyriol, a oedd yn uchel ei barch yn y gymuned."

Roedd yna deyrngedau hefyd gan deulu Dennis Riley: "Dad de ni'n colli dy wen a dy chwerthiniad. Tad-cu rydym yn colli ffrind chwarae ond rydym yn gweld dy wen o dy seren bob nos.

"Mae ein meddyliau yn gyson gydag Andrew gafodd ei anafu'n ddifrifol, a hefyd gyda'i deulu."

Mae ymchwiliad Heddlu Dyfed-Powys i achos y ffrwydrad yn parhau.

Mae dau o bobl wedi cael ei holi gan yr heddlu "mewn cysylltiad â throseddau posib dynladdiad oherwydd esgeulustod dybryd".