Cyhoeddi bil drafft rhoi organau
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi manylion newid trefn rhoi organau.
Bydd pobl yn rhoddwyr os nad ydyn nhw wedi optio allan o fod ar y gofrestr rhoi organau, yn ôl y Bil Trawsblannu Dynol (Cymru) Drafft, dolen allanol.
Mae'r rhai o blaid y newid wedi dweud y bydd yn golygu mwy o organau ar gael ar gyfer trawsblaniadau.
Ond mae arweinwyr eglwysi yn erbyn y newid ac mae Cymdeithas y Gyfraith wedi galw am fwy o eglurder am rôl y teulu pan fydd perthynas yn marw.
Cymru fydd y wlad gyntaf yn y DU i fabwysiadu system caniatâd tybiedig.
2015
Mae'r bil drafft yn cael ei gyhoeddi wedi ymgynghoriad cyhoeddus ac mae gweinidogion wedi dweud bod y canlyniadau'n cefnogi eu cynlluniau.
Pan fydd y mesur yn cael ei basio gan y Cynulliad Cenedlaethol, fe allai fod mewn lle erbyn 2015.
Gyda 300 o bobl ar y rhestr aros am organau, mae Llywodraeth Cymru am geisio gwella graddfa rhoi organau.
Ond mae'r Eglwys yng Nghymru, Eglwys Babyddol Cymru a'r Genhadaeth Uniongred yng Nghymru wedi galw am ail-ystyried.
Dywedodd llefarydd ar ran Yr Eglwys yng Nghymru: "Mae cytuno i fod ar y rhoddwr organau yn rhywbeth y dylai pob Cristion annog pobl i'w wneud ond fel unrhyw rodd allgarol, fe ddylai organau a meinwe gael eu rhoi yn rhydd nid yn dybiedig.
'Eglurder'
"Ac mae'n braf cael mwy o eglurder am y system, yn enwedig o ran cydnabod pwysigrwydd y teulu adeg y penderfynu."
Dywedodd Cymdeithas Cleifion Arennau Cymru eu bod yn croesawu'r cyhoeddiad.
Yng Nghymru mae dros 2,500 o aelodau ac ers 12 wythnos maen nhw wedi hysbysu pobl Cymru am y newidiadau.
Bydd ymgynghoriad y bil drafft yn dod i ben ar Fedi 10, 2012.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2012