Ffrae penodi i swydd cynllun ynni
- Cyhoeddwyd
Mae ffrae'n corddi wedi i Gyngor Sir Ynys Môn benodi person gyda chysylltiadau cryf gyda'r diwydiant niwclear i fod yn bennaeth cynllun ynni.
Dr John Idris Jones yw rheolwr datblygu economaidd a chymdeithasol Magnox, ac mae'n uwch-reolwr yng ngorsaf niwclear Y Wylfa.
Cafodd ei secondio i fod yn bennaeth cynllun Ynys Ynni'r awdurdod.
Ond mae'r grŵp ymgyrchu gwrth niwclear, PAWB, wedi mynegi siom a phryder am y penodiad ar raglen Taro'r Post ar BBC Radio Cymru ddydd Mercher.
'Peth call?'
Dywedodd Robert Idris ar ran y mudiad: "Yng nghyd-destun datblygu ynni yn sgil Fukushima a'r gost enfawr o ddatblygu'r ffynhonnell beryglus iawn yma o ynni, ac o ystyried bod cymaint o wledydd yn troi eu cefnau ar y diwydiant a'r dechnoleg yma, a yw'n beth call ein bod yn gosod llefarydd dros y diwydiant i ddylanwadu ar ddyfodol economaidd Ynys Môn a Gogledd Cymru?
"Rydym hefyd yn cwestiynu amseru'r penodiad, o feddwl bod Charles Hendry (Gweinidog Ynni a Newid Hinsawdd Llywodraeth San Steffan) wedi bod ar yr ynys yn ddiweddar gan fynegi barn o blaid y diwydiant."
Ond wrth ymateb i'r feirniadaeth, dywedodd Cyfarwyddwr Datblygu Cynaliadwy Ynys Môn, Arthur Owen: "Roedden ni'n chwilio am y person gorau gyda'r cefndir gorau ac mae gan y person yma'r arbenigedd a chefndir o weithio ar gynllun Ynys Ynni o'r cychwyn.
"Mae ganddo gefndir hefyd mewn ynni carbon isel yn gyffredinol, nid dim ond niwclear.
"Rydym o'r farn ei fod yn berson cymwys ac yn berson arbennig iawn ar gyfer y swydd."
Pan ofynnwyd i Mr Owen a oedd y swydd wedi cael ei hysbysebu, atebodd: "Na, gan ei fod yn benodiad dros dro, rhan amser, ac roeddem yn chwilio am ymgeisydd priodol o fewn y cynllun Ynys Ynni i ni fedru ei secondio i'r swydd hon."
Deellir mai Magnox fydd yn talu cyflog Dr Jones er y bydd yn gweithio pedwar diwrnod yr wythnos i gynllun Ynys Ynni ond nid oedd Mr Owen yn fodlon cadarnhau hynny ar y rhaglen.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd18 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd18 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2012