Llywodraeth yn cefnogi atomfa newydd ar gyfer Ynys Môn

  • Cyhoeddwyd
Atomfa Wylfa, Ynys MônFfynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i'r gwaith o gynhyrchu trydan ddod i ben yn Yr Wylfa yn 2014

Disgwylir i Lywodraeth y DU ailddatgan eu hymrwymiad i godi atomfa newydd ar Ynys Môn yn ystod ymweliad y Gweinidog Ynni ag atomfa'r Wylfa.

Bydd Charles Hendry yn dweud wrth staff yr atomfa fod gan y diwydiant ynni niwclear ddyfodol ar Ynys Môn ac yn y DU.

Mae disgwyl i'r gwaith o gynhyrchu trydan ddod i ben yno yn 2014.

Gorffennodd Adweithydd 2 yn Yr Wylfa, a ddechreuodd weithredu yn 1971, gynhyrchu trydan ym mis Ebrill.

Perchennog newydd

Fe fydd Adweithydd 1 yn parhau i gynhyrchu trydan tan 2014.

Dywed Llywodraeth Cymru mai Ynys Môn yw'r opsiwn gorau i ddatblygu ynni niwclear ac mae'r cwmnïau sydd y tu ôl i'r cynllun i godi Wylfa B yn dweud bod y prosiect yn dal yn fyw.

Mae cwmnïau E.On ac RWE npower, oedd wedi sefydlu cwmni Horizon i ddatblygu Wylfa B, yn dal i chwilio am berchennog newydd ar gyfer y cwmni.

Y bwriad oedd i Horizon godi atomfa newydd - Wylfa B - a fyddai wedi dechrau cynhyrchu trydan o 2025 ar ôl adolygiad.

Dydd Llun bydd Mr Hendry yn cyhoeddi pecyn ariannol gwerth £480,000 sydd wedi ei ddyfarnu i Raglen Ynys Ynni Môn (RYYM) gan yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear.

Cyn ei ymweliad dywedodd y gall Ynys Môn helpu i greu ynni ar gyfer y Deyrnas Unedig am ddegawdau.

Myfyrwyr

"Mae ganddi hanes gyfoethog o ran y diwydiant niwclear, gweithlu medrus, a chymuned frwdfrydig.

"Bydd y cyllid newydd rwy'n cyhoeddi heddiw yn galluogi'r cyngor i fuddsoddi mewn addysg, sgiliau, ac isadeiledd a hybu'r economi lleol."

Bydd Mr Hendry yn ymweld â myfyrwyr yng Nghanolfan Ynni Coleg Menai yn ystod ei ymweliad i'r ynys.

Bydd y Gweinidog hefyd yn cyfarfod â swyddogion cwmni Horizon, swyddogion RYYM, cwmni Magnox, Coleg Menai, Prifysgol Bangor a deiliaid eraill â diddordeb.

Dywedodd arweinydd Cyngor Ynys Môn, Bryan Owen: "Mae'n briodol i'r Gweinidog wneud ei ddatganiad ar Ynys Môn oherwydd bydd gan Wylfa un o'r safleoedd niwclear newydd yn Ewrop."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol