Gwrthwynebwyr niwclear yn creu strategaeth gwaith i Fôn

  • Cyhoeddwyd
Gorsaf Niwclear Yr Wylfa
Disgrifiad o’r llun,

Mae 'na bryder gan fudiad PAWB am ddiffyg swyddi ar Ynys Môn

Mae grŵp ymgyrchu sydd yn erbyn adweithyddion niwclear newydd yn anelu at greu strategaeth gwaith ar gyfer Ynys Môn.

Pobol Atal Wylfa B (PAWB) sydd y tu cefn i Maniffesto Môn Y Ffordd Ymlaen a fydd yn cael ei lansio yn Llangefni ddydd Gwener.

Dr Carl Clowes yw awdur y maniffesto a fydd yn awgrymu dyfodol economaidd amgen ar gyfer Ynys Môn.

Mae Rhaglen Ynys Ynni Môn, a sefydlwyd dwy flynedd yn ôl yn anelu at ymchwilio i ynni a'i ddatblygu.

Dywedodd y mudiad bod canran uchel o bobl ifanc yn gadael y sir.

Yn ôl PAWB mae gwleidyddion o bob cefndir wedi arwain pobl yr ynys i gredu mai Wylfa B yw'r ateb i bob problem.

'Gwagle cyflogaeth'

Yn gynharach yn y flwyddyn fe gyhoeddodd cwmnïau E.ON a RWE npower na fyddan nhw'n parhau i godi gorsafoedd niwclear newydd ym Mhrydain, gan gynnwys eu bwriad drwy gwmni Horizon i godi Wylfa B.

Dywedodd PAWB bod penderfyniad Horizon i gamu'n ôl o'r datblygiad a'r pryderon cynyddol am y diwydiant niwclear wedi trychineb yn Fukushima yn arwain at "wagle mewn perthynas â chyflogaeth ar yr ynys".

Yn hanesyddol, mae PAWB wedi ymgyrchu yn erbyn adweithyddion newydd.

"Wyneb-yn-wyneb â'r ansicrwydd cynyddol i'n pobl ifanc, mae'r mudiad wedi datblygu amlinelliad o strategaeth amgen ar gyfer cyflogaeth ar yr ynys ac yn annog pawb o ba gefndir bynnag i'w gefnogi," meddai llefarydd ar ran PAWB.

Pan gyhoeddwyd na fyddai cwmnïau E.ON a RWE npower yn parhau i godi gorsafoedd niwclear newydd dywedodd Sasha Wynn Davies, Cyfarwyddwr Rhaglen Ynys Ynni Môn bod eu cyhoeddiad yn "gam mawr yn ôl".

"Ond mae'r holl waith dros y ddwy flynedd ddiwethaf ers sefydlu'r Rhaglen Ynys Ynni yn siŵr o ddenu buddsoddwyr eraill, " meddai

"Yn wir, mae'r gwaith wedi datblygu sail gadarn ar gyfer unrhyw fuddsoddwr newydd."

Dywedodd PAWB mai prif bwyntiau'r ddogfen yw:

  • Mae dibyniaeth ar ynni niwclear newydd ar ben. Mae gormod o amser wedi'i golli a gormod o adnoddau wedi eu gwastraffu wrth arwain pobl i lawr llwybr diobaith

  • Mae 'na ddewisiadau amgen yn seiliedig ar adnoddau cynhenid ar neu o gwmpas yr ynys. O'u datblygu yn effeithiol - ac fel rhan o bolisi integredig Cymru gyfan - ceir mwy na digon o'r ynni sydd ei angen arnom ni

  • Mae'r strategaeth yn gosod yr achos dros agenda sy'n gydnaws â'r gweithlu sydd ar gael neu sydd yn debygol o fod ar gael yn y dyfodol cymharol agos. Mae agenda o'r fath yn osgoi'r math o broblemau all godi gyda gweithlu mudol sy'n anorfod gyda datblygiad anferthol fel y bwriadwyd gyda Wylfa B, problemau megis prinder tai lleol, tyndra cymdeithasol a'r her i'r iaith

  • Mae'r strategaeth yn mynd ymlaen i gydnabod y diwydiannau pwysig eraill ar yr ynys, yn arbennig twristiaeth ac amaethyddiaeth ac, ar yr un pryd, yn tanlinellu'r pwysigrwydd o warchod yr amgylchedd glân di-lygredd sydd mor bwysig ar gyfer eu datblygu a'u hyrwyddo ymhellach

  • O fewn y canllawiau uchod, mae'r strategaeth yn adnabod cyfleoedd ar gyfer 2,500-3,000 o swyddi mewn amrywiaeth o fentrau. Mae PAWB yn annog y Gweinidog dros Fusnes, Menter a Thechnoleg Wybodaeth yn Llywodraeth Cymru i hyrwyddo'r cynigion hyn fel rhan o waith Parth Menter Ynys Môn

  • Mae PAWB yn gweld penderfyniad Horizon i gefnu ar Ynys Môn yn gyfle i greu economi hunangynhaliol a deinamig fedr fanteisio ar rai o'r adnoddau gorau sydd i'w cael yn unlle. Mae hyn yn her positif sy'n gofyn am arweiniad. Mae PAWB yn falch o'r cyfle i ymateb ac yn gobeithio y bydd pobl Ynys Môn yn dangos ymrwymiad i'r ffordd hon ymlaen a sicrhau dyfodol cyffrous a blaengar i'r ynys

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol