Annog teuluoedd i gael eu hysbrydoli gan y Gemau i fyw'n iach
- Cyhoeddwyd
Bydd teuluoedd yn cael eu hannog i ddilyn esiampl y Gemau Olympaidd a bod yn fwy bywiog fel rhan o gynllun newydd yn erbyn gordewdra yng Nghymru.
Gobaith Gweinidogion yw y bydd 1,200 o oriau o chwaraeon ar y teledu dros yr haf yn ysbrydoli pobl i gymryd rhan yn Gemau am Oes.
Yn ôl ystadegau diweddar mae dros draean o blant Cymru dros eu pwysau.
Mae llyfryn gweithgaredd yn cynnwys cyngor ar ddefnyddio eitemau yn y cartref i greu gemau.
Er gwaetha ymdrechion i daclo gordewdra ymhlith plant, mae ffigyrau swyddogol yn nodi nad ydi'r broblem yn lleihau.
Mae arolwg Iechyd Cymru wedi canfod bod 19% o blant yn ordew y llynedd a bod 35% unai dros bwysau neu yn ordew.
Rhaglenni personol
Ychydig o newid sydd wedi bod ers 2007.
Fe wnaeth yr arolwg ganfod bod llai nag un o bob tri oedolyn yn gwneud o leiaf 30 munud o ymarfer pum niwrnod neu fwy'r wythnos a bod 52% yn gwneud o leiaf awr y dydd.
Fel rhan o'r ymgyrch, mae teuluoedd yn cael rhaglenni wedi eu llunio ar eu cyfer nhw er mwyn cyrraedd targedau ar weithgareddau corfforol.
Mae'r llyfryn yn cynnwys 18 o gemau am ddim neu rhad sydd angen ychydig os nad dim offer.
"Rydym i gyd yn gwybod pa mor bwysig yw hi i fyw bywyd iachus," meddai dirprwy brif swyddog meddygol Cymru, Jane Wilkinson.
"Ond mae'r arolwg yn dangos bod nifer o oedolion a phlant yn gwario rhan helaeth o'r diwrnod yn bod yn anactif.
"Gall sicrhau bod y galon yn pwmpio'n ddyddiol osgoi afiechydon y galon, ganser, strôc, clefyd siwgr math dau, gwella iechyd meddwl a lleihau straeon."
Dywedodd Gweinidog Treftadaeth Cymru, Huw Lewis, sydd â chyfrifoldeb am gynyddu cyfraniad pobl mewn chwaraeon, eu bod wedi awgrymu gemau syml a gaiff eu chwarae unrhyw le, unrhyw bryd.
"Ddyle 'na ddim byd fod yn rhwystr i fywyd iach a heini."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd10 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd14 Chwefror 2012