Toriadau 'yn bygwth diogelwch,' medd Carl Sargeant
- Cyhoeddwyd
Fe allai cynlluniau i leihau nifer y plismyn rheng flaen effeithio'n ddifrifol ar ddiogelwch y cyhoedd, yn ôl Llywodraeth Cymru.
Gwnaeth Carl Sargeant, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chyfiawnder Cymdeithasol, ei sylwadau ar ôl i adroddiad swyddogol ddatgan y bydd mwy na 600 o swyddi'n diflannu yng Nghymru erbyn 2015.
Mae Arolygiaeth Heddlu Ei Mawrhydi wedi dweud bod pedwar heddlu Cymru wedi mynd i'r afael yn effeithiol â thargedau ariannol wrth wneud arbedion.
'Diogelu'
Dywedodd Llywodraeth San Steffan fod yr adroddiad yn ei gwneud yn glir fod "plismona rheng flaen wedi ei ddiogelu."
Yn Hydref 2010 fe gyhoeddodd Llywodraeth San Steffan y byddai arian ar gyfer cronfa ganolog yr heddlu yn gostwng 20% rhwng Mawrth 2011 a Mawrth 2015.
Nod yr arolygiaeth yw asesu perfformiad heddluoedd yng Nghymru a Lloegr wrth geisio ymateb i'r toriadau.
Yn yr adroddiad gyhoeddwyd ddydd Llun maen nhw wedi dweud:
Bod pedwar o heddluoedd Cymru wedi cymryd camau wrth fynd i'r afael â'r toriadau yn y cyfnod dan sylw;
Bod y cynnydd mewn troseddau yn fater o beth pryder yng ngogledd Cymru, gan fod ffigyrau ar gyfartaledd wedi gostwng;
Fod boddhad dioddefwyr yn achos pryder yng Ngogledd Cymru a Gwent lle oedd 82% yn fodlon ar y gwasanaeth sy'n cael ei gynnig.
Dywedodd Mr Sargeant fod gostyngiad o fwy na 600 o blismyn erbyn 2015 yn achos pryder.
"Rwy' wedi dweud dros gyfnod o amser nad oes modd gwneud toriadau o'r fath i gyllideb yr heddlu heb gael effaith ar waith swyddogion.
"Mae adroddiad yr arolygiaeth yn dangos y bydd mwy na 600 yn llai o swyddogion rheng flaen erbyn 2015 a dwi'n poeni am hyn ac yn meddwl y bydd yn effeithio ar ddiogelwch y cyhoedd."
500
Dywedodd fod Llywodraeth Cymru yn cymryd y mater o ddifri a'u bod wedi buddsoddi arian i greu swyddi 500 o swyddogion cynorthwyol.
Wrth ymateb i lefelau troseddau yng Ngogledd Cymru dywedodd Dru Sharpling o'r arolygiaeth: "Wrth i Heddlu'r Gogledd ddatblygu eu cynlluniau, rhaid edrych am gyfleoedd i gynyddu canran y staff a swyddogion sy mewn swyddi rheng flaen, gan ganolbwyntio ar leihau troseddau a rhoi sicrwydd i'r cyhoedd."
Dywedodd Prif Gwnstabl Gogledd Cymru, Mark Polin: "Ar adeg pan oedd newidiadau heb eu hail mae'r modd mae cydweithwyr wedi addasu atyn nhw wedi creu argraff arna i.
"Erbyn hyn, mae'r sefyllfa'n gwella gan fod ystadegau chwartrer cynta eleni'n awgrymu 4% yn llai o droseddau.
Dros gyfnod o bum mlynedd, meddai, roedd troseddau wedi eu cofnodi wedi gostwng o 5.3%.
Calonogol
Dywedodd Mr Sharpling y dylai'r ganran uchel o blismyn mewn swyddi rheng flaen yn ardal Gwent sicrhau bod lefelau uwch o fodlonrwydd ymhlith dioddefwyr.
Mae Simon Prince, Dirprwy Brif Gwnstabl Gwent, wedi dweud bod yr adroddiad yn galonogol.
"Mae'n nodi ein record dda wrth leihau costau drwy reolaeth ofalus a chynllunio busnes.
"Yn amlwg, mae yna sawl her anodd o'n blaenau ... Rydym yn cydnabod y bydd yn rhaid gweud mwy a hynny gyda llai a bydd yn rhaid gwneud penderfyniadau anodd."
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys fod eu record yn dda wrth leihau costau.
"Fe nododd y llu yr angen i leihau costau cyn i'r llywodraeth gynnal Arolwg Gwariant Cyffredinol yn 2010," meddai llefarydd.
"Rydym yn falch fod yr arolygiaeth yn cydnabod y gwaith sydd wedi ei wneud yn sicrhau ein bod yn gallu cadw ffigyrau troseddu yn isel, a'r ffigyrau datrys troseddau'n uchel, a hynny mewn cyfnod o galedi."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Mai 2012
- Cyhoeddwyd20 Mai 2012
- Cyhoeddwyd18 Mai 2012
- Cyhoeddwyd10 Mai 2012