Y Swyddfa Gartref yn gwadu honiad o golli 1,600 o swyddi heddlu yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae ffrae wedi datblygu rhwng Llywodraeth y DU a Ffederasiwn yr Heddlu am nifer y swyddogion heddlu fydd yn cael eu colli yng Nghymru o ganlyniad i doriadau gwariant.
Mae'r ffederasiwn yn honni y gallai Cymru golli 1,600 o swyddogion, sy'n cyfateb i lu cyfan.
"Mae'r heddweision yma yn mynd o'r llinell flaen," meddai cadeirydd Cymru, Jeff Mapps.
Dywedodd y Swyddfa Gartref wrth BBC Cymru bod y ffederasiwn "yn codi bwganod trwy fod yn dwyllodrus â'r ffigurau".
Gwnaeth y ffederasiwn yr honiadau yn eu cynhadledd flynyddol yr wythnos diwethaf.
"Yn amlwg rydym wedi codi rhywbeth y mae'r Swyddfa Gartref yn anhapus iawn a fo," meddai Mr Mapps wrth raglen Sunday Politics y BBC.
"Y gwir yw bod y gwir yn brifo.
"Maen nhw i'w weld yn dathlu'r ffaith y bydd 800 o swyddogion yr heddlu yn cael eu colli yng Nghymru.
"Y gwir yw y bydd 1,600 yn mynd i gael eu colli.
"Mae'r ffigyrau yn syml iawn, mae 20% o doriad yn golygu colli 1,600."
Mae'r Swyddfa Gartref yn gwadu'r ffigyrau.
'Dyled gyhoeddus'
'"Mae Ffederasiwn yr Heddlu yn codi bwganod trwy fod yn dwyllodrus â'r ffigurau," meddai datganiad.
"Mae'r arolygaeth annibynnol wedi datgan y bydd llai nag 800 swyddog yn cael eu colli yng Nghymru erbyn 2015.
"Fel gwasanaeth sy'n gwario £14 biliwn y flwyddyn, mae gofyn ar yr heddlu i chwarae'u rhan wrth leihau'r ddyled gyhoeddus."
Mae'r rhyfel geiriau yn arwyddocaol o'r berthynas rhwng yr heddlu a'r Ysgrifennydd Cartref, Theresa May, gafodd ei gwawdio yng Nghynhadledd Ffederasiwn yr Heddlu yr wythnos diwethaf yn Bournemouth.
Dywedodd Mr Mapps bod y ffederasiwn yn cefnogi toriad o 12% ond bod 20% yn mynd yn rhy bell.
"Rydym eisiau trafod, ond rydym eisiau trafod gyda llywodraeth sy'n gwrando arno ni."
Dywedodd y Swyddfa Gartref bod "ansawdd ag effeithiolrwydd plismona ddim yn unig yn ddibynnol ar faint y gweithlu - sut mae swyddogion yn cael eu defnyddio sy'n bwysig.
"Mater i luoedd unigol yw penderfynu sut i ddefnyddio adnoddau, gan gynnwys swyddfeydd heddlu," ychwanegodd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2012