Hartson yn datgelu swydd Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae John Hartson wedi datgelu ei fod wedi derbyn swydd yn nhîm hyffordi Chris Coleman gyda Chymru.
Fe wnaeth y cyhoeddiad yn ei golofn mewn papur newydd yn yr Alban.
Ysgrifennodd Hartson: "Gofynnodd Chris yn syml os fyddwn i am fynd i weithio gydag e.
"Fe wnes i dderbyn ar unwaith, ysgwyd ei law, ac addo y byddwn yn gwneud unrhyw beth posibl i helpu i wneud Cymru yn dîm rhyngwladol llwyddiannus."
Nid yw Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi ymateb hyd yma.
Ymddangosodd Hartson 51 o weithiau i Gymru gan sgorio 14 gôl i'w wlad yn ystod gyrfa gyda chlybiau Arsenal, Celtic a West Ham.
Yn fwy diweddar daeth i sylw'r cyhoedd oherwydd ei frwydr lwyddiannus yn erbyn canser y ceilliau.
Cafodd Chris Coleman ei benodi'n rheolwr Cymru yn Ionawr 2012 yn dilyn marwolaeth ei ragflaenydd Gary Speed yn Nhachwedd 2011, ond roedd Hartson wedi mynegi diddordeb yn y swydd cyn i Coleman gael ei benodi.
Ychwanegodd Hartson: "Mae pawb yn gwybod cymaint o wladgarwr ydw i. Rwy'n siarad yr iaith.
"Fel bachgen o Abertawe - fel Chris fel mae'n digwydd - mae'n wych cael bod yn rhan o'r tîm.
"Mae cael cynorthwyo Chris ac, i bob pwrpas, ateb galwad gan fy ngwlad yn anrhydedd fawr i mi.
"Oherwydd hynny byddaf yn rhoi'r gorau i fy ngwaith ar y cyfryngau er mwyn medru perfformio hyd eithaf fy ngallu."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2012