Pedwar Cymro yng ngharfan Team GB
- Cyhoeddwyd
Mae BBC Cymru ar ddeall bod Gareth Bale yn un o bedwar Cymro yng ngharfan Team GB ar gyfer y Gemau Olympaidd.
Y tri arall yw Craig Bellamy o Lerpwl, a'r ddau o Abertawe, Joe Allen a Neil Taylor.
Mae nifer yn credu y bydd Ryan Giggs ac Aaron Ramsey hefyd yn cael eu dewis - Giggs a Bellamy fel rhai o'r tri chwaraewr dros 23 oed sy'n cael eu caniatáu yn y garfan.
Dydd Gwener yw'r diwrnod pan mae'n rhaid i Team GB gyflwyno'u carfan i FIFA - corff rheoli pêl-droed y byd.
Ond dywed Cymdeithas Bêl-droed Lloegr - yr FA - sy'n gyfrifol am y tîm eu bod yn ystyried peidio cyhoeddi'r rhestr.
Bydd y garfan yn cael ei chwtogi i 18 ynghyd â phedwar chwaraewr wrth gefn, ac fe fydd y garfan derfynol yn cael ei chyhoeddi ar Orffennaf 6.
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru, a chymdeithasau'r Alban a Gogledd Iwerddon, wedi mynegi eu hanfodlonrwydd gyda chreu Team GB oherwydd pryder y bydd yn bygwth eu hannibyniaeth.
Er bod y Gymdeithas yn gwrthwynebu cynnwys aelodau o garfan Cymru, maen nhw'n dweud nad oes ganddynt wrthwynebiad i gynnwys chwaraewyr o Gymru.
Mae Ramsey, y capten, Bale ac Allen eisoes wedi mynegi eu dymuniad i fod yn rhan o'r gystadleuaeth, ac mae disgwyl i'r tri dderbyn gwahoddiad i wneud hynny.
Bydd gêm gyntaf Team GB yn erbyn Senegal yn Old Trafford ar Orffennaf 26, gyda gemau grŵp i ddilyn yn Wembley a Stadiwm y Mileniwm.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2011