Annog adduned i beidio ysmygu mewn car

  • Cyhoeddwyd
Person yn ysmygu mewn carFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r llywodraeth am weld llai o blant yn cael taith ddi-fwg yn y car

Gyda'r gwyliau ysgol yn agosáu mae ymgyrch Cychwyn Iach Cymru yn galw ar rieni i beidio ysmygu yn eu ceir er mwyn diogelu eu teuluoedd rhag peryglon mwg ail-law.

Bwriad Adduned Haf Cychwyn Iach Cymru yw canolbwyntio ar ymrwymiad rhieni i gadw'u ceir yn ddi-fwg.

Caiff yr ymgyrch ei lansio cyn i wyliau haf yr ysgolion ddechrau, pan fydd teuluoedd yn paratoi i dreulio mwy o amser gyda'i gilydd, a hynny gan Lywodraeth Cymru.

Yn ystod yr haf fe fydd Cychwyn Iach Cymru yn mynd â'r Adduned allan i'r cymunedau fel rhan o'i sioe deithiol.

Mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio gallu lleihau cysylltiad plant â mwg ail-law drwy godi ymwybyddiaeth o'r peryglon sy'n gysylltiedig â hyn.

Mwg anweledig

Dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Tony Jewell, bod mwg ail-law yn cynnwys mwy na 4,000 o gemegolion a all niweidio iechyd plant.

"Mae dros 80% o fwg sigaréts yn anweledig ac ni allwch ei arogli - felly mae'r perygl yn waeth na beth mae pobl yn ei feddwl.

"Mae'r car yn lle peryglus iawn i smygu ynddo gan ei fod yn lle bach a chyfyng.

"Mae'r gwenwyn yn y mwg sigaréts yn aros yn y car am oriau ac mae'n dal i fod yn risg hyd yn oed os mai dim ond pan na fydd y plant yn y car y byddwch chi'n smygu.

"Gall agor y ffenest wneud pethau'n waeth drwy chwythu'r mwg gwenwynig i gefn y car lle mae'r plant yn eistedd."

Dywedodd bod gwyliau'r haf yn adeg pan fydd teuluoedd yn draddodiadol yn treulio llawer o amser yng nghwmni ei gilydd ac o bosib yn treulio mwy o amser yn y car.

"Mae mwg sigaréts yn cynyddu'r risg i blant o ddatblygu cyflyrau iechyd difrifol fel asthma a phroblemau anadlu, a haint yn y clustiau.

"Mae hyd yn oed wedi'i gysylltu ag achosi marwolaeth yn y crud a llid yr ymennydd.

"Dyna pam ein bod yn annog pobl yng Nghymru i wneud Adduned Haf Cychwyn Iach; gan sicrhau cychwyn iach iddyn nhw eu hunain a'u teulu a chadw'u ceir yn ddi-fwg."

Ychwanegodd nad ydyn nhw eisiau dweud wrth rieni beth y dylen nhw ei wneud, ond yn syml rhoi'r ffeithiau moel iddyn nhw am ysmygu a pherygl smygu i blant.

"Credwn fod rhieni am amddiffyn eu plant, ac unwaith maen nhw'n hollol ymwybodol o'r peryglon, byddant yn dewis peidio â smygu yn eu cwmni nhw," ychwanegodd.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol