Giggs yn gapten tîm pêl-droed Prydain
- Cyhoeddwyd
Ryan Giggs fydd capten tîm pêl-droed Prydain yn y Gemau Olympaidd yn Llundain.
Gwnaed y cyhoeddiad gan Gymdeithas Pêl-droed Lloegr ddydd Sul.
Mae Giggs, 38 oed, ynghyd â Craig Bellamy a Micah Richards yn un o dri chwaraewr dros 23 oed sy'n cael eu caniatáu yn y garfan.
Fe wnaeth Giggs roi'r gorau i chwarae i Gymru yn 2007, gan ennill 64 o gapiau.
Bydd Giggs yn arwain tîm Prydain mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Brasil yn Stadiwm Riverside ar Orffennaf 20.
"Yn amlwg mae gennyf brofiad ac mae yna nifer o chwaraewyr ifanc yn y garfan, a dwi'n gobeithio fel capten allu trosglwyddo'r profiad yna i'r chwaraewyr iau," meddai Giggs.
Yn ogystal â Giggs a Bellamy mae yna dri Chymro arall yn y garfan.
Bydd Neil Taylor a Joe Allen o glwb Abertawe yn ymuno â nhw, ynghyd ag Aaron Ramsey o Arsenal.
Un arall sydd wedi'i enwi yn y garfan yw ymosodwr Abertawe, Scott Sinclair.
Bu'n rhaid i Gareth Bale dynnu ei enw yn ôl oherwydd anaf.
Dadlau
Mae presenoldeb chwaraewyr o Gymru - ynghyd â'r Alban a Gogledd Iwerddon - yn y garfan wedi bod yn destun dadlau tanbaid, gyda Chymdeithasau Pêl-droed y gwledydd hynny yn mynegi anfodlonrwydd gyda'r sefyllfa.
Pryder y cymdeithasau yw y bydd Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon yn colli eu statws fel gwledydd annibynnol o fewn FIFA - corff rheoli pêl-droed y byd - os fyddan nhw'n cytuno i fod yn rhan o dîm Prydeinig.
Nid yw'r hyfforddwr Stuart Pearce wedi dewis unrhyw chwaraewyr o'r Alban na Gogledd Iwerddon.
Dyma'r garfan o 18 yn llawn :-
Jack Butland (Birmingham), Jason Steele (Middlesbrough); Ryan Bertrand (Chelsea), Steven Caulker (Tottenham), Craig Dawson (West Brom), Micah Richards (Manchester City), Neil Taylor (Abertawe), James Tomkins (West Ham); Joe Allen (Abertawe), Tom Cleverley (Manchester United), Jack Cork (Southampton), Ryan Giggs (Manchester United), Aaron Ramsey (Arsenal), Danny Rose (Tottenham), Scott Sinclair (Abertawe); Craig Bellamy (Lerpwl), Marvin Sordell (Bolton), Daniel Sturridge (Chelsea).
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2011