Tywysog Cymru a Duges Cernyw yn y canolbarth

  • Cyhoeddwyd
Y cwpl brenhinol
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r daith yn para am bedwar diwrnod

Ar ail ddiwrnod eu taith yng Nghymru roedd Tywysog Cymru a Duges Cernyw yn y canolbarth.

Dechreuodd y diwrnod mewn gwasanaeth diolchgarwch yn Eglwys Gadeiriol Aberhonddu.

Y tywysog yw noddwr Apêl Côr Eglwys Gadeiriol Aberhonddu sy' wedi cyrraedd targed o £1m.

Wedyn cyfarfu'r ddau ag arddangoswyr celf.

Yn Ysgol Penmaes roedd y dduges yn cyfarfod â staff, rhieni a disgyblion cyn dadorchuddio ffenest wydr.

Yno mae adnoddau ar gyfer 110 o ddisgyblion ag anawsterau dysgu rhwng dwy oed ac 19.

Y cam nesa' ar y daith oedd sgyrsio â gwirfoddolwyr a thrigolion lleol wrth nodi dau ganmlwyddiant Camlas Trefynwy ac Aberhonddu.

Prentisiaid

Yn ystod y dydd roedd y tywysog, noddwr Cymdeithas y British Horse Loggers, yn cyfarfod â phrentisiaid y grefft yn y goedwig ger ei gartref, Llwynywermod, Myddfai.

Yno hefyd roedd yn trafod ag aelodau sy'n gysylltiedig â'r diwydiant coedwigaeth yng Nghymru.

Cychwynnodd y daith ddydd Llun yn ninas ddiweddara Cymru, Llanelwy, cyn ymweld â Bodnant, Y Fali a Cheredigion.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol